Neidio i'r prif gynnwy

Timau'r GIG yn codi arian ar gyfer yr elusen Young Lives vs Cancer er cof am ferch cydweithiwr

Cynhaliwyd gêm bêl-droed ar gyfer yr elusen Young Lives vs Cancer yn ddiweddar ar 1 Hydref 2023 yng Ngholeg Sir Gâr, Llanelli er cof am Abby Fiola, merch Claire Green, cydweithiwr yn PCGC.  Cafodd Abby ddiagnosis o fath prin o Ganser yr Ofari yn ystod 2022 ac yn anffodus bu farw yn 20 oed yn ystod 2023.

Mae Young Lives vs Cancer yn cefnogi plant a phobl ifanc o dan 25 oed a'u teuluoedd i ddod o hyd i'r cryfder i wynebu beth bynnag y maent yn ei wynebu oherwydd canser. Mae’r elusen wedi cefnogi teulu Abby o ddechrau diagnosis Abby hyd at ei thriniaeth ac mae’n parhau i helpu a chefnogi.

Mewn gêm ddifyr a oedd â sgôr uchel, brwydrodd Tîm Abby yn erbyn tîm o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a ddaeth i’r brif yn y pen draw o dan amodau heriol mewn gêm gyffrous o 15 gôl.

Wrth fyfyrio ar y gêm elusennol ar gyfer Young Lives vs Cancer, dywedodd Christopher Hampson, y trefnydd a chydweithiwr yng Ngwasanaethau Cyflogres PCGC:

“Rydw i wedi bod yn defnyddio pêl-droed fel modd i godi arian ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn. Nid oedd yn anodd dod â dwy garfan o chwaraewyr ynghyd i’r achos.”

“Rydw i’n meddwl ein bod ni i gyd wedi mwynhau ein hunain a chael cyfle i helpu. Wrth gwrs, rydw i’n siomedig ein bod ni wedi colli ond y gwir enillydd oedd yr elusen Young Lives vs Cancer gan ein bod wedi codi £500 ar ein tudalen JustGiving hyd yn hyn ac rydym yn disgwyl i hynny fod yn fwy na £600 cyn bo hir.”

“Diolch i bawb a gymerodd ran - gan gynnwys Coleg Sir Gâr am y gefnogaeth, y rhai a chwaraeodd, y rhai a ddaeth i’r gêm a’r rhai sydd wedi rhoi. Rydw i wir yn gwerthfawrogi hyn.”

Mae’r dudalen JustGiving dal ar agor ar gyfer rhoddion a gallwch ddefnyddio’r ddolen ganlynol i ddod o hyd i’r dudalen: https://www.justgiving.com/page/abby

 
Rhannu: