Neidio i'r prif gynnwy

Tynnu fferyllydd oddi ar y rhestr fferyllol yn dilyn euogfarn am dwyll gwerth £76,475

 

Cafodd y fferyllydd Michael Lloyd ei dynnu oddi ar Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ar 22 Medi 2020. Cymerwyd y cam hwn yn dilyn gwrandawiad disgyblu a gynhaliwyd gan bwyllgor addasrwydd i ymarfer y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

Roedd y Cyngor Fferyllol Cyffredinol wedi cael gwybod bod Lloyd wedi cael ei ddedfrydu i 16 mis o garchar yn Llys y Goron Caerdydd ar 22 Hydref 2019. Roedd Lloyd wedi pledio'n euog i droseddau twyll ar ôl cael ei ddal yn cyflwyno hawliadau ffug i'r GIG.

Gwnaeth Lloyd, a oedd yn gyn gyd-gyfarwyddwr Llanharan Pharmacy Ltd, hawlio drwy dwyll ei fod wedi dosbarthu eitemau drutach na'r eitemau a ddarparwyd i'r cleifion. Hawliodd Lloyd drwy dwyll o Talbot Pharmacy, y fferyllfa yr oedd yn ei rheoli ar Heol y Gyfraith, Tonysguboriau, Rhondda Cynon Taf. Mae gan Llanharan Pharmacy Ltd bedair cangen arall nad oeddent yn gysylltiedig â throseddau Lloyd.

Ymchwiliodd Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru i'r achos ar ôl i bryderon gael eu codi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Cadarnhaodd Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru fod Lloyd wedi hawlio drwy dwyll dros 1,500 o bresgripsiynau yn ystod cyfnod o 5 mlynedd. Cyfrifwyd mai cyfanswm y golled i'r GIG oedd £76,475.

Roedd ymchwiliadau’n dangos bod Lloyd wedi nodi, yn anghywir, ei fod wedi dosrannu meddyginiaethau ar ffurf hylif i gleifion y GIG ond, mewn gwirionedd, tabledi a dderbyniont. Ar ffurf tabledi, mae cyffuriau ar gyfer dementia megis Memantine a Donepezil yn costio cyn lleied â £3 y presgripsiwn i’r GIG. Fodd bynnag, byddai Lloyd yn hawlio am y math drutach sydd ar ffurf hylif, sydd weithiau'n costio cymaint â £300 y presgripsiwn i’r GIG.

Yn aml, byddai Lloyd yn newid y ffurflenni presgripsiwn ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan staff, gyda'r feddyginiaeth a oedd wedi'i darparu i'r cleifion o ddifrif. Dangosodd y dystiolaeth y byddai Lloyd yn croesi cofnodion dilys allan ac yna’n cofnodi eitemau drutach megis hylifau a thabledi toddadwy a chwaladwy.

Roedd y presgripsiynau wedi deillio o bresgripsiynau a ysgrifennwyd â llaw naill ai gan feddygon ysbyty yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg gerllaw neu gan ymarferwyr deintyddol cymunedol. Nid oedd unrhyw broblemau gyda'r feddyginiaeth a ddarparwyd i'r cleifion ac roeddent bob amser yn cael y feddyginiaeth gywir a oedd wedi'i rhagnodi.

Cynorthwyodd Uned Cyfrifiadura Fforensig Awdurdod Atal Twyll y GIG yr ymchwiliad trwy gael delwedd fforensig o  systemau  cyfrifiadurol  Talbot  Pharmacy. Hefyd, gweithiodd Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru yn agos gyda’r Tîm Fferylliaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a gynorthwyodd trwy helpu i adnabod y presgripsiynau yr hawliwyd amdanynt yn anghywir

Dadansoddodd Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru y presgripsiynau yn erbyn systemau cyfrifiadurol Talbot Pharmacy. Helpodd y dadansoddiad i brofi bod Lloyd wedi darparu meddyginiaeth wahanol i'r hyn a hawliwyd amdano. Hefyd cafodd Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru y deunyddiau pacio gan sawl claf fel tystiolaeth bod y cyffuriau rhatach wedi'u darparu.

Cysylltwch â’ch Arbenigwr Atal Twyll Lleol ar 02921 836265 neu anfonwch e-

bost at Craig.greenstock@wales.nhs.uk

 

Cysylltwch â Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru ar 01495 334100 neu anfonwch e-bost at Enquiries@nhscfswales.gov.uk

 

Cliciwch ar y ddolen i fynd i’r offeryn ar-lein i adrodd am dwyll yn y GIG

 

Ffoniwch linell radffôn Awdurdod Atal Twyll y GIG ar 0800 028 40 60 (24 awr y dydd). Mae pob adroddiad yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol, ac mae gennych yr opsiwn i adrodd am eich pryderon yn ddienw.

Rhannu: