Neidio i'r prif gynnwy

Y Bartneriaeth Cydwasanaethau yn hwyluso cyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol gwerth £7.2m i Namibia

 

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) yn hwyluso cyflenwi o Gyfarpar Diogelu Personol i Namibia er mwyn helpu gyda’r frwydr fyd-eang yn erbyn COVID-19.

Ymwelodd y Prif Weinidog Mark Drakeford â hwb dosbarthu IP5 PCGC yng Nghasnewydd i gyhoeddi bod PCGC yn cyflenwi gwerth £7.2 miliwn o Gyfarpar Diogelu Personol i Namibia i'w helpu i frwydro yn erbyn trydedd don ddinistriol o’r pandemig Covid.

Mae gwerth dros £7m o fasgiau, gynau a diheintydd dwylo, nad oes eu hangen yng Nghymru yn cael eu rhoi ac mae grant arall o £500,000 yn cael ei roi ar gyfer offer ocsigen ac i hyfforddi nyrsys.

Ar hyn o bryd, mae Namibia yng nghanol ei thrydedd don o'r pandemig ac mae'r trydydd ymchwydd hwn wedi amlygu bod y seilwaith iechyd critigol yn Namibia yn annigonol.

Mae'r pecyn yn cynnwys dros 1.1m o fasgiau wyneb, 500,000 o gynau, 100,000 ffedog diogelu a gwerth dros £1m o ddiheintydd dwylo.

Bydd Cymru hefyd yn rhoi £500,000 ar gyfer offer ocsigen hanfodol ac i hyffordd nyrsys trwy raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru.

Mae gan Namibia broblem ddifrifol ynghylch cyflenwad ocsigen a diffyg personél sydd â'r sgiliau i ddarparu ocsigen i achub bywydau pobl sy'n ddifrifol wael.

Fel rhan o'r ymweliad, cyfarfu'r Prif Weinidog â Judith Hall, sy'n athro ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi helpu i yrru’r prosiect i drosglwyddo Cyfarpar Diogelu Personol i’r wlad yn ne Affrica.  Mae trosglwyddo'r cyfarpar hefyd yn rhan o fenter a wireddwyd trwy'r Prosiect Phoenix a weithredir rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia.

Roedd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd; Linda Scott, Uchel Gomisiynydd Namibia i'r DU, a Jayne Bryan, Aelod o’r Senedd dros Orllewin Casnewydd, hefyd yn bresennol i drosglwyddo'r offer clinigol i'w cludo drwy rwydweithiau dosbarthu PCGC.

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru; 

“Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol o Namibia am y sefyllfa anodd dros ben y maen nhw'n ei hwynebu wrth frwydro yn erbyn COVID-19.  Mae'n ddyletswydd arnom i helpu'r rhai mewn angen ac rwy'n falch bod Cymru yn camu ymlaen i frwydro yn erbyn bygythiad byd-eang y coronafeirws.”

“Bydd Cymru’n sefyll ochr yn ochr â Namibia a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu drwy’r cyfnod anodd hwn.”

Meddai Neil Frow, Rheolwr Gyfarwyddwr PCGC:

“Rwy’n falch iawn o ymdrechion anhygoel ein timau i wireddu’r rhodd hon Mae pawb wedi gweithio’n anhygoel o galed ledled Cymru ac rwy’n falch ein bod yn gallu chwarae ein rhan mewn menter a fydd yn caniatáu i weithwyr iechyd yn Namibia deimlo eu bod yn cael cefnogaeth wrth iddynt weithio i achub bywydau.”

“Mae cyflenwi Cyfarpar Diogelu Personol i Namibia hefyd yn cadarnhau ein hymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n ymrwymo Cymru i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang.”

“Bellach, rydym hefyd wedi dosbarthu dros filiwn o eitemau o Gyfarpar Diogelu Personol ledled Cymru ers dechrau'r pandemig, sy'n gyflawniad aruthrol.” Diolch i'r holl staff sydd wedi mynd yr ail filltir ac am barhau i chwarae rhan mor hanfodol wrth gadw'r olwynion i droi ym mhob dim y byddwch yn ei wneud fel rhan o GIG Cymru."

Jonathan Irvine, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Caffael a’r Gwasanaethau Negesydd Iechyd;

“Rwy’n falch iawn bod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi gallu cynorthwyo drwy roi 1.9 miliwn o eitemau Cyfarpar Diogelu Personol i bobl Namibia.   Mae ein llwyddiant wrth gyrchu a sicrhau Cyfarpar Diogelu Personol drwy gydol y pandemig wedi caniatáu i ni adeiladu stoc i'r lefel y mae'r rhodd hon yn bosibl."

“Rwy’n falch o ddweud bod nifer o’r cynhyrchion Cyfarpar Diogelu Personol sy’n cael eu rhoi naill ai wedi’u cynhyrchu yng Nghymru neu wedi eu cyrchu trwy ddosbarthwyr ac asiantau o Gymru.  Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn falch o allu cefnogi Llywodraeth Cymru i roi’r  rhodd hon ac i ddarparu cymorth mawr ei angen i Namibia wrth iddi frwydro yn erbyn COVID.”

Rhannu: