Yn ddiweddar, dyfarnwyd y Wobr Esblygu i Dîm Scan for Safety (S4S) Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yng Ngwobrau Future Vision mewn seremoni a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2023.
Mae S4S yn cyflwyno sganio cod bar ac awtomeiddio'r cysylltiad rhwng cynhyrchion sydd wedi’u hadnabod yn unigryw, lleoedd a phobl. Mae hyn nid yn unig i helpu i atal niwed i gleifion, ond hefyd i ddarparu data amser real i staff gofal iechyd yn y pwynt gofal.
Bydd y fenter Cymru gyfan hefyd yn sicrhau arbedion ariannol sylweddol, caniatau i reoli stoc yn well, cael gwared ar dasgau gweinyddol llafurus i staff clinigol, yn ogystal â diogelu ein cleifion rhag niwed y gellir ei osgoi, trwy ddarparu’r gallu i olrhain dyfeisiau meddygol sydd wedi’u mewnblannu yn syth pe bai angen galw cleifion yn ôl.
Mae’r tîm S4S wedi cael eu cydnabod a'u gwobrwyo am; Galluogi trawsnewid, awtomeiddio archebu cynhyrchion, galluogi byrddau iechyd i ddisodli’r gwaith llafurddwys o archebu â llaw tra’n cynyddu amlygrwydd stoc mae mawr ei angen a; Dangos y ffordd i eraill drwy’r weledigaeth, mae’r tîm ac yn enwedig y Partneriaid Busnes yn gweithio gyda rhanddeiliaid ym mhob bwrdd iechyd ar draws timau clinigol, cyflenwi, caffael, cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth/Llywodraethu Gwybodaeth i hybu mabwysiadu.
Dywedodd Neil Frow OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr PCGC; “Hoffwn longyfarch y Tîm Scan for Safety (S4S). Mae hon yn fenter ragorol sydd eisoes wedi dod â manteision enfawr i GIG Cymru yn unol â gwaith traws-bartneriaeth llwyddiannus gyda Byrddau Iechyd.”