Llongyfarchiadau i’n timau Caffael a Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol (SMTL), sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Busnes yng Ngwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru.
Ynghyd â chydweithwyr o adrannau Iechyd, Economi, Arloesi a Chaffael Llywodraeth Cymru a Diwydiant Cymru, maent wedi cyrraedd y rhestr fer fel rhan o’r Tîm Peirianneg Gofynion Cyfarpar Hanfodol (CERET) a sefydlwyd ym mis Mawrth 2020 i ymateb i’r angen brys am ddyfeisiau meddygol, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol yn sgil pandemig COVID-19.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://lnkd.in/eWpC29B