Cydnabyddir bod staff y GIG (mewn ysbytai, yn y gwasanaeth ambiwlans, yn y gymuned ac ym maes Gofal Sylfaenol) yn fwyaf tebygol o wynebu trais a chamdriniaeth yn y gwaith.
Mae’r System Rheoli Pryderon Unwaith dros Gymru yn ffordd newydd i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru fynd ati i adrodd, gofnodi, fonitro, olrhain, dysgu a gwneud gwelliannau.
Mae PROMPT (Hyfforddiant Amlbroffesiynol Obstetrig Ymarferol) yn becyn hyfforddiant amlbroffesiynol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer argyfyngau obstetrig.
Ym mis Mehefin 2021, cymeradwyodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol achos busnes llawn a buddsoddiad cysylltiedig fel y camau cyntaf tuag at ymgorffori egwyddorion ac arferion SganioErDiogelwch ledled Cymru. Mae diogelwch cleifion wrth wraidd y rhaglen ac mae safonau data a thechnoleg chipio data yn cael eu cyflwyno ledled GIG Cymru.
Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i Sefydliadau GIG Cymru fod yn agored ac yn onest gyda’r defnyddwyr gwasanaethau sy’n derbyn gofal a thriniaeth. Amlinellir hyn yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.