Mae CIVA @ IP5 yn wasanaeth paratoi moddion sy'n gweithredu o'n warws dosbarthu cenedlaethol. Wedi'i sefydlu fel prosiect cyflenwi cyflym mewn ymateb i COVID-19 mae'n cyflenwi meddyginiaethau i'w chwistrellu mewn fformat parod i'w ddefnyddio’n syth yn ein Hunedau Gofal Critigol ledled Cymru. Mae hyn yn sicrhau parhad cyflenwad, ansawdd a diogelwch, ac mae’n rhyddhau amser nyrsys i ganolbwyntio ar ofal cleifion.
Ariennir y gwasanaeth gan Lywodraeth Cymru ac mae'n gweithredu dan lywodraethiant Pwyllgor y Bartneriaeth Cydwasanaethau. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i fapio dyfodol y gwasanaeth hwn, a sut y gall gefnogi gofal cleifion orau wrth i ni ddod allan o’r pandemig COVID-19.