Cydnabyddir yn eang bod staff y GIG (Ysbytai, Ambiwlans, Cymunedol, a Gofal Sylfaenol gan gynnwys Deintyddiaeth ac Optometreg ynghyd â staff y sector cyhoeddus sy’n cyflawni dyletswyddau gofalu) ymhlith y rhai sydd fwyaf tebygol o wynebu trais ac ymddygiad ymosodol yn ystod eu cyflogaeth.
Mae holl sefydliadau'r GIG yn cydnabod eu dyletswydd i ddarparu amgylchedd diogel a sicr i'r holl staff, defnyddwyr gwasanaeth ac ymwelwyr. O fewn eu rhwymedigaethau iechyd a diogelwch ac uchelgais strategol Cymru Iachach mae'r GIG yn ceisio dod yn gyflogwr enghreifftiol o ran iechyd a llesiant ei weithlu. Mae gan sefydliadau’r GIG bolisïau trais ac ymddygiad ymosodol lleol sy’n amlinellu’r dull y cytunwyd arno i atal ac ymateb i achosion o’r fath tuag at eu gweithlu.
Gweledigaeth Grŵp Cydweithredol Cymru Dros Atal Trais (AVC) yw cefnogi GIG Cymru a sefydliadau Gwasanaethau Brys i leihau a rheoli digwyddiadau trais ac ymddygiad ymosodol. Bydd y Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais (AVC) yn hyrwyddo strategaethau lleihau trais a chyfathrebu â defnyddwyr gwasanaethau trwy hwyluso cydweithio â phartneriaid yn y Gwasanaethau Cyfiawnder Troseddol, cyrff GIG Cymru, sefydliadau Gwasanaethau Brys a Llywodraeth Cymru.
Mae'r cytundeb 'Ymatebion gorfodol i drais mewn gofal iechyd' yn nodi cyfrifoldebau partneriaid wrth ddelio â digwyddiadau treisgar neu ymosodol sy'n ymwneud â staff y GIG. Bydd yn canolbwyntio ar y digwyddiadau hynny y mae’n rhaid i’r system cyfiawnder troseddol fynd i’r afael â nhw, sy’n cynnwys:
Cysylltwch â’r Tîm Cydweithredol dros Atal Trais: antiviolence.collaborative@wales.nhs.uk
Gellir cysylltu ag Uwch Gynghorydd Diogelwch a Grŵp Cydweithredol Cymru dros Atal Trais, Gareth Lewis gan ddefnyddio: Gareth.Lewis11@wales.nhs.uk