Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Mae Rhaglen Recriwtio Ryngwladol GIG Cymru yn rhaglen gweithlu strategol genedlaethol. Ein cenhadaeth yw hwyluso recriwtio diogel, moesegol a chost-effeithiol Gweithwyr Gofal Iechyd Rhyngwladol i weithlu GIG Cymru, a lleihau swyddi gwag, cryfhau gwydnwch a chynaliadwyedd gwasanaethau bregus a chefnogi darpariaeth gofal cleifion rheng flaen.

Rydym yn darparu gwasanaeth recriwtio rhyngwladol effeithlon, symlach a chyson ar gyfer GIG Cymru, a mabwysiadu dull "Unwaith i Gymru" sy'n lleihau cystadleuaeth, yn dileu dyblygu ac yn gwneud y mwyaf o fanteision dull cydweithredol.