Neidio i'r prif gynnwy

System Adrodd Diogelu Uwch ar gyfer GIG Cymru

1 TACHWEDD 2024 byddwn yn gwneud newid sylweddol i’r ffurflenni a ddefnyddir i adrodd am bryderon diogelu plant, oedolion a gweithwyr proffesiynol i bartneriaid awdurdodau lleol.

Rhaid llenwi Ffurflen Adroddiad Diogelu GIG Cymru ar gyfer Cymru Gyfan a'i hanfon o Datix Cymru. Bydd pob corff Iechyd yn addasu'r broses newydd hon ac eithrio Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST).

 

Unwaith i Gymru

Y nod yw sicrhau bod gennym ni ddull Unwaith i Gymru o gofnodi ac adrodd am bryderon diogelu.

 

Platfform data sengl

Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu dealltwriaeth gyson, gwell sicrwydd ansawdd a monitro gweithgarwch diogelu yn GIG Cymru.

 

Rhannu gwybodaeth yn Datix Cymru

Yn gallu chwilio, creu dangosfyrddau diogelu, dadansoddi tueddiadau, perfformiad a chanlyniadau.

 

Hyfforddiant a Chymorth

Ni fydd ffurflenni atgyfeirio diogelu presennol yn cael eu defnyddio mwyach o 1 Hydref 2024.

 

Mae'r dolenni i'r Fideos Hyfforddi i'w gweld isod:

Submitting a Safeguarding Report

Merging a Safeguarding Report to send to Local Authority

 

Mae Canllaw Adrodd Diogelu Datix Cymru ar gael yma:

 

pdf icon

 

OfW Safeguarding Reporting User Guide (PDF, 553KB)

 

Mae Tîm Canolog Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru wedi'i leoli ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) ac yn lletya’r wefan hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r broses adrodd neu unrhyw faterion technegol, cysylltwch â:

OnceForWales.CMS@wales.nhs.uk – caiff y mewnflwch hwn ei fonitro rhwng dydd Llun a dydd Gwener 0900-1700.

 

Bydd Canllawiau ychwanegol, hyfforddiant a chymorth gan eich tîm diogelu ac arweinwyr Datix ar gael yn eich sefydliad.

 

Adborth Defnyddwyr

Byddem yn falch o dderbyn unrhyw adborth ar y broses gofnodi i lywio gwelliannau. Anfonwch e-bost at Dîm Canolog Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru:

OnceForWales.CMS@wales.nhs.uk

Rhannu: