Mae tryloywder a hysbysu’r cyhoedd am sut mae eu data’n cael eu defnyddio yn ddau nod sylfaenol yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Mae Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU yn gam cyntaf tuag at roi mwy o reolaeth i destun data dros y ffordd y mae sefydliadau’n defnyddio ei ddata.
Mae hysbysiad preifatrwydd yn ffordd bwysig o helpu’r rhai sy’n cysylltu neu sy’n destun prosesu o fewn ein sefydliad at wahanol ddibenion i wneud penderfyniadau gwybodus am y data rydym yn eu casglu a’u defnyddio.
Wrth ddrafftio Hysbysiad Preifatrwydd, rhaid i PCGC ddarparu hysbysiad preifatrwydd i bobl sydd:
Fel y disgrifiwyd yn narpariaethau Deddf Diogelu Data 2018 (gwefan allanol) a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018, rydym yn cymryd mesurau priodol i gynnal diogelwch eich data ar ein gwefan. Mae’r wybodaeth a gesglir wedi’i llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn ac mae defnyddio’r wefan hon yn dangos eich bod yn cydsynio i rannu eich gwybodaeth.
Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol am weithwyr sy’n defnyddio mewnrwyd PCGC. Pan fyddwch yn cyflwyno data adnabyddadwy o’ch gwirfodd ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflenni adborth, tanysgrifiadau neu holiaduron), ni fydd yr wybodaeth a gyflwynwyd ond yn cael ei defnyddio i ymateb i’ch ymholiadau ac at y dibenion y cafodd yr wybodaeth ei chasglu.
O ran gwybodaeth bersonol neu wybodaeth gyfrinachol arall adnabyddadwy, mae gan bob maes gwasanaeth sy'n prosesu data ei Hysbysiad Preifatrwydd neu ei Bolisi Preifatrwydd ei hun, sy'n esbonio'r defnydd o ddata a ddarperir i'r sefydliad gan adran benodol.
Mae’r rhain yn cynnwys (er enghraifft)
Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg:
Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg
O dan GDPR, mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu harfer mewn perthynas â’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Mae’r rhain fel a ganlyn:
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau fel defnyddiwr gwasanaeth, ewch i’r tudalennau “Data Matters” ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru hefyd sawl dogfen sy’n ymwneud â Hawliau’r Unigolyn, sydd i’w gweld ar dudalennau mewnrwyd Llywodraethu Gwybodaeth PCGC.
Mae’r dudalen Facebook a’r dudalen Twitter ar gyfer yr ymgyrch hon yn cael eu rheoli gan Dîm Cyfathrebu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC).
Byddwn yn monitro ein tudalennau Facebook a Twitter a bydd gennym fynediad i unrhyw negeseuon preifat neu gyhoeddus a anfonir. Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i roi'r ymateb mwyaf perthnasol i'ch ymholiad.
Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen rhannu’r wybodaeth â sefydliadau trydydd parti, e.e. adran neu Fwrdd Iechyd arall yng Nghymru os bydd gennych ddiddordeb mewn gweithio iddyn nhw / mewn maes penodol – ni fydd hyn yn cael ei wneud heb eich caniatâd penodol.
Os byddwch yn anfon neges gyhoeddus atom, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i ymateb i'ch ymholiad ac mae’n bosibl y byddwn yn rhannu neu'n aildrydar eich neges.
Rydym yn defnyddio Transport Layer Security (TLS) i amgryptio a diogelu traffig e-bost yn unol â'r llywodraeth. Os nad yw eich gwasanaeth e-bost yn cefnogi TLS, dylech fod yn ymwybodol efallai na fydd unrhyw e-byst rydym yn eu hanfon neu'n eu derbyn wedi'u diogelu wrth eu cludo.
Byddwn hefyd yn monitro unrhyw e-byst a anfonir atom, gan gynnwys atodiadau ffeil, am firysau neu feddalwedd faleisus. Byddwch yn ymwybodol bod gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost y byddwch yn ei anfon o fewn ffiniau'r gyfraith.
Rydym yn ceisio cyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydym yn cymryd unrhyw gwynion a gawn am hyn o ddifrif. Os yw pobl yn meddwl bod ein prosesau o gasglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol, rydym yn eu hannog i ddod â hyn i'n sylw. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella ein gweithdrefnau.
Os bydd angen newid Polisïau Preifatrwydd mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn wedi'i diweddaru ar y dudalen hon. Mae adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.
Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Ionawr 2025.
I gael rhagor o wybodaeth neu os ydych chi’n meddwl bod angen i’ch adran greu Hysbysiad Preifatrwydd, cysylltwch â: Tim Knifton, Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth PCGC.
Rydym yn croesawu eich adborth. Os byddwch yn cysylltu â ni yn gofyn am wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen i ni gysylltu ag adrannau eraill y llywodraeth i ddod o hyd i'r wybodaeth honno. Os yw'ch cwestiwn yn dechnegol, mae’n bosibl y bydd angen i ni ei drosglwyddo i'n cyflenwyr technoleg.
Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol wrth ddelio â’ch ymholiad, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny. Unwaith y byddwn wedi ymateb i chi, byddwn yn cadw cofnod o'ch neges at ddibenion archwilio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y caiff eich data eu defnyddio, ysgrifennwch atom drwy ein ffurflen adborth.
Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr i wella'r cynnwys a ddarperir ar y wefan. Mae Google Analytics (gwefan allanol) yn wasanaeth rhad ac am ddim a ddarperir gan Google (gwefan allanol) sy'n cynhyrchu ystadegau manwl am yr ymwelwyr â gwefan.
Mae'r wybodaeth a gesglir yn cynnwys cyfeirio / gadael tudalennau gwe, patrymau clicio, tudalennau gwe sydd fwyaf / lleiaf poblogaidd, hyd sesiwn, nifer yr ymwelwyr, math o borwr, system weithredu, ac ati. Cesglir gwybodaeth trwy ddefnyddio cwcis.
Gall y wefan hon ddefnyddio Google Analytics (gwefan allanol), sef gwasanaeth dadansoddeg gwe a ddarperir gan Google Inc. (‘Google’). Mae Google Analytics yn defnyddio ‘cwcis’ a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Caiff yr wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) ei throsglwyddo a’i storio ar weinyddwyr Google yn yr Unol Daleithiau.
Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynhyrchu adroddiadau am weithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Mae’n bosibl y bydd Google hefyd yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle y bo’n rhaid gwneud hynny yn unol â’r gyfraith, neu lle y bydd trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.
Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata eraill a gadwyd amdanoch ynghynt. Gallech wrthod defnyddio cwcis trwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Noder os bydd cwcis wedi’u diffodd, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio swyddogaeth lawn y wefan hon. Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cydsynio i Google brosesu data amdanoch yn y modd ac at y dibenion a amlinellir uchod.
Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Llawn Google (gwefan allanol) a Thelerau Gwasanaeth (gwefan allanol) i gael gwybodaeth fanwl.
Mae cwcis yn ffeiliau bach y mae gwefannau yn eu rhoi ar yriant disg caled eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â nhw. Mae cwcis yn trosglwyddo gwybodaeth yn ôl i wefannau bob tro y byddwch chi'n ymweld â nhw. Fe'u defnyddir i adnabod porwyr gwe, olrhain tueddiadau defnyddwyr a storio gwybodaeth am ddewisiadau defnyddwyr. Gallwch gyfyngu/analluogi cwcis ar eich porwr; fodd bynnag efallai na fyddwch yn gallu manteisio'n llawn ar holl nodweddion ein gwefan heb gwcis.
Trwy ddeall ymddygiadau a dewisiadau defnyddwyr, rydym yn gallu gwella cynnwys ein gwefan i ddiwallu anghenion a disgwyliadau defnyddwyr
Nid yw'r datganiad hwn yn berthnasol i ddolenni allanol; mae casglu gwybodaeth gan wefannau o'r fath yn amodol ar bolisïau preifatrwydd perthnasol. Nid ydym yn gyfrifol nac yn atebol am arferion preifatrwydd gwefannau allanol, ac mae defnyddio gwefannau o'r fath yn ôl eich disgresiwn. Rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw.