Bydd Tracy Myhill, Cadeirydd Pwyllgor Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, yn gadael y rôl ddiwedd mis Ebrill 2026.
Mae Tracy wedi gwasanaethu fel Cadeirydd ers 2021, gan ddod ag arweinyddiaeth, mewnwelediad a chefnogaeth aruthrol yn ystod cyfnod lle mae PCGC wedi tyfu'n sylweddol o ran ei maint, uchelgais a’i heffaith.
Mae ei harweiniad wedi bod yn allweddol wrth helpu i lunio ein cyfeiriad strategol a chryfhau ein gallu i gyflawni ar ran GIG Cymru.
Dywedodd Neil Frow OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr PCGC: “Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i Tracy am ei harweinyddiaeth eithriadol a’i hymrwymiad diysgog dros y pum mlynedd diwethaf.
“Mae hi wedi bod yn gynghorydd dibynadwy, yn eiriolwr angerddol dros ein gwaith, ac yn bresenoldeb cyson wrth i ni lywio datblygiadau mawr ar draws y sefydliad.
“Mae cyfraniad Tracy wedi helpu i roi PCGC mewn sefyllfa ar gyfer llwyddiant parhaus, ac rydym yn ddiolchgar iawn am yr eglurder, yr uniondeb a’r ddynoliaeth y mae hi wedi’u dwyn i’r rôl.”
Dywedodd Tracy Myhill OBE, Cadeirydd Pwyllgor Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru: Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint cadeirio Pwyllgor Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Phwyllgor Cronfa Risg Cymru a gweithio ochr yn ochr â'r tîm mwyaf anhygoel yn PCGC, a chyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.
“Nid oes gennyf amheuaeth y bydd PCGC yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol i GIG Cymru a, thrwy hynny, i’r bobl yn ein cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Diolch o galon a dymuniadau gorau i chi i gyd yn eich ymdrechion yn y dyfodol.”
Ymunwch â ni wrth ddiolch o galon i Tracy am ei harweinyddiaeth, ei brwdfrydedd a'i chefnogaeth yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd y pwyllgor.
Byddwn yn dechrau’r trefniadau ar gyfer recriwtio cadeirydd newydd yn fuan