Rydym yn falch iawn o rannu wythfed Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) gyda chi.
Mae’r adolygiad yn tynnu sylw at y meysydd o gynnydd a gwelliannau allweddol rydym wedi’u gwneud ac mae’n rhoi cipolwg ar yr ystod eang o gefnogaeth y mae PCGC yn ei gynnig i fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru, fel y gallant, yn eu tro, ganolbwyntio ar gyflenwi gwasanaethau rheng flaen yn lleol yn fwy effeithiol.
Mae'r buddion y gall PCGC eu cynnig i GIG Cymru yn sylweddol, yn amrywio o ostyngiadau mewn costau gweinyddol, effeithlonrwydd o gyflwyno prosesau cyffredin a rhannu arfer da, hyd at yr arbedion a'r gwelliannau sylweddol mewn ansawdd o fewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG a grëir trwy ein gwasanaethau proffesiynol a thechnegol.
Ynghyd â’n partneriaid, gall PCGC chwarae rôl sylweddol wrth wella iechyd a llesiant pobl ym mhob rhan o Gymru trwy greu sefydliad sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a fydd yn cyflenwi gwasanaethau cymorth o safon sy’n cynnig gwerth am arian ledled Cymru yn gyson. Gellir dod o hyd i’n hadolygiad yn y llyfrgell isod.