Neidio i'r prif gynnwy

A oes angen i mi fynychu apwyntiad Gwirio Cyn Cyflogi?

 

  • Rhaid i bob aelod newydd o staff a benodir i swydd newydd gwblhau gwiriadau cyn cyflogi (PEC) o dan Safonau Gwirio Cyflogaeth y GIG (hyd yn oed os ydych yn symud yn fewnol o fewn eich Sefydliad).

 

  • Os ydych yn gwneud cais mewnol i GIG Cymru, bydd y Gwasanaethau Recriwtio yn ailddefnyddio'r wybodaeth ar eich ffeil lle bynnag y bo'n bosibl, a byddent ond yn gofyn am ragor o ddogfennau os yw'r wybodaeth gyfredol yn hen neu'n amherthnasol.  Felly, efallai y bydd angen i chi drefnu apwyntiad Gwirio ID gyda'r dogfennau perthnasol. 
Rhannu: