Mae Eleri yn gweithio i Gronfa Risg Cymru o fewn Cydwasanaethau GIG Cymru fel Uwch Gynghorydd Diogelwch a Dysgu ar y Banc yn dilyn ei recriwtio ym mis Gorffennaf 2021.
Swydd barhaol Eleri yw Rheolwr Hawliadau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr lle mae'n rheoli Hawliadau Esgeuluster Clinigol ar gyfer ardal y Gorllewin ac yn gweithio'n agos gyda Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn ddyddiol. Mae Eleri wedi mwynhau ei misoedd cyntaf gyda Chronfa Risg Cymru yn adolygu Adroddiadau Dysgu o Ddigwyddiadau a gweithio ar yr Adolygiad Rheoli Pryderon.
Mae Eleri wedi gweithio i'r GIG er 2004 pan ymunodd â'r Tîm Cwynion a Gwasanaethau Cyfreithiol ar ôl cwblhau ei LLM ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddi brofiad helaeth o ddelio â chwynion, cwestau a hawliadau esgeuluster clinigol yn ogystal â rheoli achosion o dan y Rheoliadau Gweithio i Wella. Mae Eleri hefyd wedi cwblhau ei LPC ac mae ganddi Ddiploma mewn Rheoli Risg a Hawliadau Clinigol sy'n fuddiol iawn i'w rôl fel Rheolwr Hawliadau yn ogystal â'i rôl gyda Chronfa Risg Cymru.
Yn ystod ei rôl fel Rheolwr Hawliadau mae Eleri wedi gweithio'n agos gyda Chronfa Risg Cymru i dreialu'r Adroddiadau Dysgu o Ddigwyddiadau i sicrhau bod dysgu yn cael ei gofnodi’n gynt o lawer ac mae hyn yn rhywbeth y mae'n angerddol iawn amdano. Mae'r Tîm Hawliadau hefyd wedi dod yn ddi-bapur o fewn y Bwrdd Iechyd gan eu bod wedi datblygu system rheoli hawliadau gadarn.
Mae Eleri yn byw yng Nghricieth yng Ngogledd Cymru gyda'i gŵr a'i merch. Yn ei hamser hamdden, mae Eleri yn mwynhau rhedeg, padlfyrddio, cerdded mynyddoedd Eryri, coginio a phaentio gyda'i merch. Mae hi hefyd wedi cofrestru'n ddiweddar ar gyfer ei marathon eithafol cyntaf ac mae'n edrych ymlaen at yr her.
E-bost : Eleri.Wright2@wales.nhs.uk