Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Cadw Golwg ar y Ffetws

fetal monitor

Nodwyd bod monitro ffetws yn ffactor cyfrannol hanfodol mewn achosion lle gallai gwelliannau mewn gofal fod wedi atal canlyniad gwael. Rydym yn parhau i weld hawliadau Esgeuluster Clinigol yn GIG Cymru sy'n cynnwys problemau a methiannau yn y broses cadw golwg ar y ffetws yn ystod genedigaeth. 

Mae Tîm Diogelwch a Dysgu Mamolaeth Cronfa Risg Cymru yn cydlynu'r gwaith o ddatblygu adnoddau hyfforddi i'w defnyddio gan glinigwyr ledled Cymru i gefnogi gofynion  Safonau Cymru ar gyfer Cadw Golwg ar y Ffetws yn ystod Genedigaeth.

Mae'r tîm yn gweithio gyda chyrff cenedlaethol i ddatblygu offeryn dogfennaeth gadarn, safonol ac archwiliadwy ar gyfer GIG Cymru sy'n nodi'r elfennau a nodir yn y Safonau ac a fydd yn cefnogi clinigwyr wrth asesu'r fenyw a'r babi yn yr adolygiad 'llygaid ffres'.  Mae'r tîm Cadw Golwg ar y Ffetws yn ystod Genedigaeth yn cynnwys Sarah Hookes, Sarah Morris a Nil Sengupta.