Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar Drefniadau Indemniad yn Ystod y Pandemig Coronafirws

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.

Helen Thomas-Bone

Ar hyn o bryd mae Helen Thomas-Bone yn gweithio fel Uwch Nyrs ar gyfer Sicrhau Ansawdd ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.  Mae Helen wedi profi gyrfa amrywiol o dan ymbarél y GIG gan weithio am flynyddoedd lawer ym maes Comisiynu Gofal Iechyd Parhaus, Gofal Nyrsio a Ariennir a'r broses Uwchgyfeirio Pryderon; mae wedi gweithio fel Asesydd Budd Gorau gyda gwybodaeth sy'n gorgyffwrdd o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol gan symud ymlaen i ddatblygu ac arwain y gwasanaeth Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid o fewn HDUHB.  Mae Helen hefyd wedi gweithio mewn meysydd clinigol fel Rheolwr Ward ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn ac o fewn Gwella Gwasanaethau.  Canfu Helen ei hangerdd dros ddiogelwch cleifion drwy gydol ei gyrfa a chadarnhaodd hyn drwy weithio fel Rheolwr Clinigol tîm diogelwch cleifion arobryn yn adolygu gofal mewn gwasanaethau ysbyty cyffredinol.  Cipiodd y tîm hwn y wobr gyntaf am ei ddysgu arloesol o ddigwyddiadau.

Mae Helen yn wraig briod hapus gyda dau o blant ac mae ganddi ddiddordeb personol mewn grymuso rhieni plant sydd ag anghenion addysgol arbennig i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt.  Mae Helen yn mwynhau treulio amser gyda'i theulu a'i chŵn ochr yn ochr â photel dda o Malbec.  Mae Helen yn breuddwydio am ymddeol i Majorca!

 

Cyswllt


E-bost : Helen.Thomas-Bone@wales.nhs.uk