Neidio i'r prif gynnwy

Manon Gwilym

Mae Manon Gwilym yn Brif Gynghorydd Diogelwch a Dysgu gyda Chronfa Risg Cymru sy'n cefnogi'r Rhaglen Cydsynio i Archwilio a Gwella Triniaeth.  Mae hi hefyd yn Gynghorydd Cyfreithiol Cyfraith a Moeseg Glinigol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Rhan bwysig o'r rôl hon yw gweithio ochr yn ochr â'r Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol - Y Gyfraith a Moeseg i ddarparu goruchwyliaeth strategol ac arweiniad i BIPBC ar gydsyniad.

Gweithiodd Manon mewn practis preifat fel Cyfreithiwr hyd 2004 pan ymunodd ag Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-orllewin Cymru (yr Ymddiriedolaeth) fel Uwch Swyddog Ymchwilio. Yn y rôl honno ymdriniodd â hawliadau anafiadau personol a wnaed yn erbyn yr Ymddiriedolaeth a goruchwyliodd rheolaeth cwynion ac ymgyfreitha, gan gynnwys hawliadau esgeuluster clinigol. Mae Manon hefyd wedi delio â chydymffurfiad statudol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth (a oedd yn cynnwys gweithredu Deddf Galluedd Meddyliol 2005) ac yna gweithredu'r Rheoliadau Gweithio i Wella ar gyfer BIPBC.

Lleoliad gwaith Manon yng Ngogledd Cymru yn PCGC Tŷ Alder. Mae hi'n byw ar Ynys Môn, yn briod ac mae ganddi ddwy ferch. Pan nad yw hi’n gweithio, mae'n mwynhau canu mewn côr lleol, marchogaeth, cerdded a threulio amser ar y fferm deuluol.

 

Cyswllt


E-bost: Manon.Gwilym2@wales.nhs.uk