Neidio i'r prif gynnwy

Sarah Morris

Mae Sarah Morris yn fydwraig/nyrs hyfforddedig yn BIP Cwm Taf Morgannwg ac mae wedi’i secondio’n rhan-amser i Gronfa Risg Cymru yn swydd Bydwraig Genedlaethol PROMPT Cymru, gan gefnogi timau lleol gyda hyfforddiant cynaliadwyedd a sicrwydd ansawdd PROMPT Cymru yn genedlaethol. Dechreuodd Sarah ei thaith gyda thîm PROMPT Cymru fel Bydwraig Weithredu yn 2018, gan gefnogi timau i ymgorffori'r hyfforddiant yn eu rhaglenni hyfforddi gorfodol. Pan mae’n gweithio yn BIP Cwm Taf Morgannwg, mae Sarah yn gweithio fel Bydwraig Datblygu Ymarfer sy'n arwain ar hyfforddiant PROMPT Cymru ar draws y Bwrdd Iechyd.

Cymhwysodd Sarah fel Nyrs Oedolion yn 2006 lle bu’n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau yn BIP Cwm Taf Morgannwg - adsefydlu strôc, gofal lliniarol ac aeth ymlaen i gymhwyso fel bydwraig yn 2011. Dechreuodd Sarah ei blynyddoedd bydwreigiaeth yn BIP Caerdydd a'r Fro fel bydwraig gylchdro Band 6 a chwblhaodd y cwrs Archwilio Newydd-enedigol ac Ymddygiadol. Cyn gadael BIPCF roedd Sarah wrth ei bodd yn gweithio ar yr uned ochr yn ochr â bydwreigiaeth. Er 2014, mae Sarah wedi'i lleoli yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful (PCH). Mae Sarah wedi ymgymryd â llawer o rolau, yn gyntaf ym mand 6 yna fel cydlynydd ward esgor band 7 yn ogystal â bydwraig Dewis Man Geni. Mwynhaodd Sarah ei rôl fel Hyrwyddwr Obs Cymru a oedd yn brosiect ymchwil cenedlaethol ledled Cymru. Ei rôl hi oedd helpu i gasglu data a hyrwyddo ymwybyddiaeth o fenter Obs Cymru ar gyfer 1000 o Fywydau o fewn BIP Cwm Taf Morgannwg.

Yn ystod amser Sarah gyda Chronfa Risg Cymru a Thîm Cenedlaethol PROMPT Cymru, mae Sarah wedi datblygu llawer iawn o sgiliau rhwydweithio ledled GIG Cymru, gan ddatblygu perthnasoedd â gweithwyr aml-broffesiynol ar draws y lleoliad mamolaeth. Mae hyn wedi caniatáu cydweithredu yn arbennig gyda Bydwragedd Datblygu Ymarfer i rannu dysgu a syniadau ar gyfer datblygu. Llwyddodd Sarah a Sarah Hookes i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant PROMPT Cymru yn y Gymuned . Mae Sarah wedi cefnogi Cronfa Risg Cymru mewn agweddau eraill megis cynnal archwiliad cenedlaethol ar Safonau Cymru ar gyfer Cadw Golwg ar y Ffetws yn ystod Genedigaeth. Mae Sarah hefyd yn mwynhau mynychu Paneli Cynghori Dysgu Cronfa Risg Cymru a chefnogi'r tîm.

Yn 2020, enillodd Sarah ei Thystysgrif Ȏl-raddedig mewn Addysg Uwch ym Mhrifysgol De Cymru ac ar hyn o bryd mae'n ymgymryd â'i gradd Meistr mewn Ymarfer Proffesiynol ym Mhrifysgol De Cymru.

Yn ystod amser hamdden Sarah mae hi'n Dechnegydd Amrannau lle mae ganddi amrywiaeth o gwsmeriaid. Diddordebau Sarah yw treulio amser gyda'i gŵr a'i merch Amelia. Mae hi wrth ei bodd yn mynd ar wyliau ac yn mynd i wyliau cerdd ynghyd â threulio amser yn ei gwersyllfan.

 

Cyswllt


E-bost: Sarah.Morris7@wales.nhs.uk