Ganed Christine yn Ne Cymru ond pan oedd yn ifanc symudodd i Dorset pan newidiodd ei thad ei swydd. Yn 1970, symudodd y teulu ychydig ymhellach i ffwrdd ac ailgartrefu yn Zambia lle bu tad Christine yn gweithio fel peiriannydd yn y Mwyngloddiau Copr tan 1978 pan ddychwelsant i Dde Cymru.
Gweithiodd Christine yn y sector preifat nes ymuno ag Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg yn 2004 fel Hwylusydd Llywodraethu Clinigol gyda Gwasanaethau Iechyd Menywod a Phlant. Ar ôl 15 mlynedd o weithio mewn rôl Lywodraethu heriol ond gwerth chweil, gan ganolbwyntio ar Wasanaethau Mamolaeth yn ystod y blynyddoedd olaf, ymunodd Christine â Thîm Prosiect Unwaith i Gymru fel Rheolwr Cymorth Technegol.
Mae gan Christine ddwy ferch, wyres, a llamgi felly mae'n cael ei chadw'n eithaf prysur ar benwythnosau yn cerdded y ci ac yn gofalu am ei hwyres.
E-bost: Christine.Buckland@wales.nhs.uk