Neidio i'r prif gynnwy

Lisa Roberts

Ymunodd Lisa â Chronfa Risg Cymru ym mis Gorffennaf 2020, fel rhan o'r Tîm Canolog fel Rheolwr Cymorth Technegol, sy'n gyfrifol am weithredu a rheoli System Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru.

Cyn hynny, gwasanaethodd am 22 mlynedd yn y Llynges Frenhinol, yn gyntaf fel Cyfathrebwr cyn newid arbenigedd i fod yn Nyrs Ddeintyddol gan symud i fod yn Rheolwr Ymarfer Nyrsio Deintyddol a Rheolwr Ymarfer Rhanbarthol ar gyfer Rhanbarth y De-orllewin.  Ar ôl ymddeol o’r lluoedd arfog ac adleoli yn ôl i Dde Cymru, ymunodd â’r GIG yn 2013 fel rhan o’r Tîm Casglu Gwaed yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, gan symud i’r Tîm Llywodraethu yn 2015 a [dod yn] Rheolwr Profiad Rhoddwyr yn 2019.

Y tu allan i’r gwaith, mae Lisa yn cadw'n brysur gyda'i thri phlentyn rhyfeddol, Ava, Alfie a Layla.

 

Cyswllt


E-bost: Lisa.Roberts@wales.nhs.uk