Mae Sarah yn gweithio i Gronfa Risg Cymru o fewn Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fel Rheolwr Gweithrediadau ac mae wedi cael ei chyflogi ers mis Medi 2020.
Mae Sarah yn mwynhau ei rôl fel aelod o Dîm Cenedlaethol PROMPT Cymru lle mae'n helpu i drefnu digwyddiadau hyfforddi ac yn cymryd rhan wrth sicrhau ansawdd y rhaglen hyfforddi ledled Cymru. Mae Sarah yn gyfrifol am brosesu hawliadau ac achosion gwneud iawn a dderbynnir gan sefydliadau GIG Cymru ac mae'n paratoi'r rhain yn barod i'w hadolygu gan y Cynghorydd Diogelwch a Dysgu, y Panel Cynghori ar Ddysgu a Phwyllgor Cronfa Risg Cymru. Mae Sarah wedi ymgymryd â rôl Hyrwyddwr Iechyd a Llesiant tîm Cronfa Risg Cymru ac mae'n mwynhau trefnu gweithgareddau tîm sy'n canolbwyntio ar Iechyd a Llesiant. Mae ei 'Paned a Sgwrs' fore Mercher yn boblogaidd iawn ac mae’n cefnogi perthnasoedd tîm yn ystod 'Gweithio Ystwyth.'
Roedd swydd gyntaf Sarah yn y GIG fel Sgriniwr Clyw Newydd-anedig, yn gweithio yn yr ysbyty ac mewn clinigau cymunedol. Datblygodd lawer iawn o sgiliau o'r rôl hon gan gynnwys pwysigrwydd cyfathrebu'n effeithiol ac yn sensitif gyda'r teuluoedd.
Cyn ymuno â PCGC, bu Sarah yn gweithio ym maes Gwasanaethau Menywod ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel Gweinyddwr Hyfforddiant, gan drefnu Hyfforddiant Gorfodol a Hyfforddiant PROMPT ar gyfer bydwragedd a staff obstetreg. Datblygodd gronfa ddata gadarn i fonitro cydymffurfiad hyfforddiant ac adroddodd i'r Uwch Dîm Rheoli. Sarah oedd yr ysgrifenyddiaeth ar gyfer nifer o gyfarfodydd; gan drefnu agendâu, cymryd nodiadau a pharatoi a dosbarthu cofnodion.
Mae Sarah wedi cwblhau HNC mewn Astudiaethau Busnes ac ar hyn o bryd mae'n gweithio tuag at orffen ei gradd yn y pwnc.
Mae Sarah yn byw yng Ngogledd Cymru gyda'i phartner a’i chi annwyl iawn, Benji! Mae Sarah yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn mwynhau dysgu ymadroddion Cymraeg newydd i'w chydweithwyr. Yn ei hamser hamdden, mae'n mwynhau sesiynau hyfforddi personol a rhedeg, a threulio amser gyda'i ffrindiau a'i theulu.
E-bost: Sarah.Hughes88@wales.nhs.uk