Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) yn derm cyffredinol sy'n cyfeirio at geulad gwaed sydd wedi ffurfio mewn gwythïen. Mae'n cynnwys thrombosis gwythiennau dwfn (DVT) ac emboledd yr ysgyfaint (PE). Ceuladau gwaed yw DVT sy'n ffurfio amlaf yng ngwythiennau dwfn y coesau neu'r breichiau. Mae'r rhan fwyaf o emboleddau yr ysgyfaint yn deillio o geuladau gwaed sy'n ffurfio mewn gwythïen ddofn yn y goes. Gall rhan o'r ceulad dorri i ffwrdd a theithio i'r ysgyfaint. 
Thrombo-emboledd Gwythiennol yw un o brif achosion marwolaeth ac anabledd yn y DU ac mae'n brif achos marwolaeth mamau.  Mae'r data diweddaraf sydd ar gael gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos 2,713 o farwolaethau sy’n gysylltiedig â VTE yng Nghymru a Lloegr yn 2022. Mae hyd at 60% o achosion o Thrombo-emboledd Gwythiennol yn deillio o thrombosis a gafwyd yn yr ysbyty (HAT). Maent yn cyfrannu at filoedd o farwolaethau mewn ysbytai yn y DU bob blwyddyn. Mae modd atal llawer o farwolaethau o'r fath os yw cleifion yn cael asesiad risg Thrombo-emboledd Gwythiennol pan gânt eu derbyn i'r ysbyty ac yn cael cynnig thromboproffylacsis priodol. 
Gall diagnosis o Thrombo-emboledd Gwythiennol hefyd gael effaith hirdymor sylweddol ar iechyd unigolyn, gan arwain mewn llawer o achosion at ddibyniaeth gydol oes ar feddyginiaeth gwrthgeulo.
Pan fo Thrombo-emboledd Gwythiennol wedi deillio o dorri dyletswydd mewn gofal, mae hyn hefyd yn effeithio ar sefyllfa ariannol GIG Cymru o ganlyniad i hawliadau esgeuluster clinigol. Mae achosion a gyflwynir i Bwyllgor Cronfa Risg Cymru yn cynnwys materion pan fo methiant i adnabod symptomau PE neu DVT, methiant i gwblhau asesiad risg Thrombo-emboledd Gwythiennol sy'n arwain at hepgor thromboproffylacsis, a diagnosis wedi'i ohirio neu ei fethu.