Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Cyflogi hyd Ymddeol

Dyn a dynes yn ysgwyd llaw

Mae’r Rhaglen Cyflogi hyd Ymddeol yn nod flaenllaw i Gyfarwyddwyr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol GIG Cymru. Mae hefyd yn cydfynd â ffrwd gwaith  ‘Driving Excellence’  y Cyfarwyddwyr Cyllid i symleiddio prosesau a systemau, cofleidio technoleg a gwybodeg a darparu gwasanaethau safon gwaith.

Dyma 5 nod strategol y rhaglen Gweithio hyd Ymddeol:

  • Lleihau Amserlenni Recriwtio trwy ddefnydd llawn o swyddogaeth y Cofnod a rhyngwynebau perthnasol a phrosesau sydd wedi eu datblygu'n dda.
  • Cefnogi lleihau lefelau Absenoldeb trwy Salwch trwy adrodd a llinellau amser data gwell
  • Defnyddio Hunan Wasanaeth y Cofnod yn llawn
  • Systemau Cyflogres Di bapur
  • Symud yn gyfangwbl at System Rheoli Dysgu Cofnod Staff Electronig

Mae Llywodraethu’r Rhaglen Cyflogi hyd Ymddeol yn cael ei wneud trwy’r grwpïau prosiect canlynol ac yn cynnwys cynrychiolwyr o bob Ymddiriedolaeth a Bwrdd Iechyd yng Nghymru:

  • Adnoddau Dynol/Recriwtio
  • Hunan Wasanaethu
  • Dysgu a Datblygu Sefydliad
  • Adrodd Ansawdd Data a Chynhwysedd
  • Rhyngwyneb Deugyfeiriadol Iechyd Galwedigaethol
  • Cyflogres
  • Rheolaethau a Manteision