Fel gwasanaeth caffael sefydledig yn GIG Cymru, rydym yn cynorthwyo’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y claf. Rydym yn wasanaeth sydd wedi ennill gwobrau, ac rydym yn canolbwyntio ar werth am arian, diogelwch, rhagoriaeth, arloesedd ac ansawdd.