Neidio i'r prif gynnwy

Cwmsmeriaid

customer service

Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi, ein cwsmer, sy’n diwallu’ch anghenion nawr ac yn y dyfodol. Mae ein Strategaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid yn esbonio sut y byddwn yn mynd ati i ragori ar eich disgwyliadau ac mae’n cynnwys ein Siarter Cwsmeriaid sy’n manylu ar ein hymrwymiad i chi.

Byddwn yn darparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel ichi, ac rydym ymrwymedig i’r Safonau Gwasanaethau Cwsmeriaid sy’n egluro ansawdd y gwasanaeth y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwn yn delio â chi.

Pan fyddwn yn delio â chi, byddwn yn:

  • datrys eich ymholiadau y tro cyntaf ichi gysylltu lle bo hynny’n bosibl
  • parchu cyfrinachedd os yw’n berthnasol
  • sicrhau y cewch y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich ymholiad
  • dangos cwrteisi a pharch, gan dalu sylw i’ch anghenion
  • sicrhau bod ein staff wedi eu hyfforddi i roi cymorth a chyngor, neu eu bod yn gallu’ch cyfeirio at y person iawn a all eich helpu os na allant.

Wrth ateb y ffôn, llythyrau, negeseuon ffacs ac e-byst, byddwn yn:

  • ymateb i’ch ymholiad yn brydlon ac yn broffesiynol
  • ceisio sicrhau y cewch y wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn y modd priodol

Pan fyddwch yn ymweld â ni yn bersonol, byddwn yn:

  • sicrhau bod yr arwyddion a’r wybodaeth yn eglur
  • sicrhau bod ardaloedd yn hawdd eu cyrraedd, yn ddiogel ac yn lân
  • eich cyfarch a delio â’ch ymholiad yn brydlon
  • sicrhau ein bod yno i gwrdd â chi yn brydlon, neu roi gwybod ichi os bydd rhaid inni ganslo neu ail-drefnu apwyntiad

Fel y nodwyd uchod, rydym am ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl ichi, a dim ond trwy wrando arnoch chi y mae modd gwybod beth rydym yn ei wneud yn dda a beth mae’n rhaid inni ei wella. Dyma beth y gallwch chi ei wneud i helpu: