Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ar ran Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd Arbennig ledled Cymru yn adolygu Telerau ac Amodau Contract Safonol GIG Cymru o bryd i’w gilydd ar gyfer darparu nwyddau a gwasanaethau a ddyfernir i ddarparwyr masnachol trydydd parti. Mae'r telerau ac amodau diwygiedig yn adlewyrchu'r ddeddfwriaeth ddiweddaraf ac arferion gorau'r diwydiant.
Bydd argraffiad newydd fersiwn 4 (2023) o Delerau ac Amodau Contract Safonol GIG Cymru yn dod i rym ar 1 Awst 2023 a byddant yn berthnasol i gytundebau newydd yr ymrwymir iddynt ar neu ar ôl 1 Awst 2023 yn unig.
Rhaid i bob cystadleuaeth, dyfarniad contract ac archeb brynu a gyhoeddir gan sefydliad GIG Cymru gydymffurfio â Thelerau ac Amodau Contract Safonol GIG Cymru.
Bydd unrhyw gytundebau presennol ac estyniadau contract a gyhoeddir o dan y rhain yn parhau i fod yn ddarostyngedig i rifyn fersiwn 3 (2018) o Delerau ac Amodau Contract Safonol GIG Cymru.
Dyma grynodeb byr o’r newidiadau:
Diweddariad: Mae set o Delerau ac Amodau ar gael ar gyfer yr adegau hynny pan fo Nwyddau a Gwasanaethau’n cael eu caffael hefyd. Ynghyd â hyn mae set o Delerau ac Amodau ar gael ar gyfer darparu gwasanaethau cynnal a chadw.
Mae’r rhain yn dempledi lle mae’n rhaid i Fyrddau Iechyd sicrhau bod Cytundebau Methiant i Ddatgelu / Cyfrinachedd ar waith. Mae 3 fersiwn