Nod Gwasanaethau Caffael GIG Cymru yw darparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel i’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau yn GIG Cymru sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, a hynny trwy wasanaethau Ffynonellu, Rheng Flaen, y Gadwyn Gyflenwi, e-Alluogi a Chyfrifon Taladwy.
Mae’r gwaith ffynonellu ar hyn o bryd yn amrywiol ac mae’n cynnwys deunydd fferyllol, bwyd, cyfleustodau a defnyddiau traul meddygol. Mae hefyd yn cynnwys darparu arbenigedd ym maes caffael mewn meysydd prosiect arbenigol. Mae’r gwaith i Lywodraeth Cymru yn cynnwys cefnogaeth i wasanaethau iechyd meddwl a chefnogi’r gwaith o gyflwyno Bwydlen Cymru Gyfan.
Ar wahân i weithgareddau gweithredol y timau, rydym yn hefyd yn gwneud arbedion sylweddol i’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau, wrth barhau i adolygu eu prosesau a’u gweithdrefnau gweithredol ar yr un pryd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir iddynt yn effeithiol ac yn effeithlon.
Gweledigaeth & Strategaeth: Gwasanaethau Caffael (PDF,111kb)
Ein gweledigaeth yw darparu Gwasanaeth Caffael o’r radd flaenaf trwy gydol y cylch Prynu i Dalu, er mwyn cefnogi anghenion gofal iechyd a lles cleifion yn GIG Cymru.