Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio gyda ni

working with us

Mae’r GIG yn sefydliad mawr ac amrywiol, ac mae llawer o gyfleoedd i wneud busnes gyda ni ar wahanol lefelau - mae Gwasanaethau Caffael GIG Cymru ond yn un pwynt mynediad.

Un o brif amcanion Gwasanaethau Caffael yw llunio cytundebau gwerth am arian ym meysydd clinigol ac anghlinigol fel ei gilydd, sydd ar gael i bob Ymddiriedolaeth a Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Mae cydweithio â chyflenwyr a meithrin perthnasau gweithio da yn rhan bwysig o’n cenhadaeth.

Mae Gwasanaethau Caffael yn gweithio’n uniongyrchol gyda chyflenwyr ac yn ei gwneud yn bosibl i gwsmeriaid gaffael nwyddau a gwasanaethau am brisiau cystadleuol, a hynny trwy agregu adnoddau ledled Cymru.

 

Perthnasau Strategol

Er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau i’n cwsmeriaid, rydym yn ymgysylltu lawer â rhanddeiliaid ac yn meithrin perthnasau strategol â chyflenwyr. Trwy gydweithio fel hyn, mae modd llunio strategaethau a phrosesau caffael cadarn. Canlyniad hynny yw cytundebau sy’n dangos gwerth am arian.  

 

Cyfleoedd Cynllun Gwaith

Mae Cynllun Gwaith Gwasanaethau Caffael yn manylu ar y prosiectau allweddol y byddwn yn gweithio arnynt yn y flwyddyn ariannol, ynghyd â’r cyfleoedd i gyflenwyr, Caiff prosiectau eu hychwanegu at y cynllun trwy gydol y flwyddyn yn ôl anghenion ein cwsmeriaid.  Gan ddefnyddio porth e-dendro Gwasanaethau Caffael, gan BravoSolution, gall cyflenwyr gofrestru eu manylion, dangos eu diddordeb mewn prosiectau presennol a gweld gwahoddiadau ffurfiol i dendro.

 

Dolenni Defnyddiol