Oherwydd y sefyllfa barhaus gyda phandemig Covid-19, mae'r Gwasanaeth Recriwtio wedi gweithredu i sicrhau y gallwn barhau i brosesu ceisiadau recriwtio.
O ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020 - bydd yr holl Wasanaethau Recriwtio cyffredinol yn parhau i weithredu mor agos â phosibl i’r arfer.
Er mwyn recriwtio mor effeithlon a diogel â phosibl, lle mae'r Bwrdd Iechyd wedi gofyn yn benodol i'r rhain barhau, byddwn yn cynnal gwiriadau cyn-gyflogaeth wyneb yn wyneb. Cynhelir cyfarfodydd rhithwir. Byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol gyda gwybodaeth ar sut y bydd y gwiriad rhithwir yn digwydd. Byddwch yn amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod hwn gan y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch cefnogi ac i sicrhau bod y broses recriwtio yn parhau i ddigwydd mor ddidrafferth â phosibl.