Daeth Hannah yn Weithredwr Cyfreithiol cymwys yn 2015.
Astudiodd Hannah y Gyfraith a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Nantes. Aeth ymlaen i astudio ar gyfer y Diploma Graddedig Carlam gyda Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol.
Rhwng Medi 2010 a Hydref 2012, gweithiodd Hannah fel para-gyfreithiwr yn DAC Beachcroft, lle bu’n ymdrin â hawliadau Clefydau Diwydiannol yn unig. Dechreuodd weithio yn yr adran Gyfreithiol a Risg yn 2012 fel para-gyfreithiwr yn yr adran Anafiadau Personol, wrth gwblhau ei diploma CILEx. Wedi iddi gymhwyso, treuliodd gyfnod secondiad chwe mis gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, lle cafodd ddealltwriaeth ehangach o rôl y cleient mewn ceisiadau Ymgyfreitha Sifil. Mae Hannah yn arbenigo mewn clefydau diwydiannol, atebolrwydd cyflogwyr a hawliadau atebolrwydd y cyhoedd.
Mae Hannah yn mwynhau cadw’n heini trwy redeg a mynydda yn ystod ei hamser rhydd. Mae hi hefyd yn mwynhau pobi. Mae hi’n siarad Ffrangeg, ac wrthi’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.
Mae Hannah yn awyddus i godi arian at elusennau amrywiol, a hithau wedi rhedeg mewn sawl hanner marathon (gan gynnwys y Great North Run er mwyn codi arian i Gymdeithas Alzheimer’s) a her Tri Chopa Cymru i Ganolfan Ganser Felindre.