Neidio i'r prif gynnwy

Robert Jenkins

Cymhwysodd Robert fel cyfreithwr ym mis Ionawr 2010.

Cyflawnodd Robert ei gontract hyfforddi gyda chwmni cyfreithiol maint cymedrol yng Nglynebwy, lle gweithiodd ym meysydd amrywiol y gyfraith, gan gynnwys cyfraith drosedd, trawsgludo, cyfraith teulu, ac ewyllysiau a phrofiant.

Ar ôl cymhwyso, ymunodd Robert â phractis cyfraith trosedd prysur yng nghanol Caerdydd, lle’r oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar waith cyfraith trosedd gyda diffinyddion. Ymunodd â’r  Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ym mis Chwefror 2011, yn gweithio yn yr adran anafiadau personol, lle mae’n defnyddio ei 10 mlynedd o brofiad yn y maes hwn. Mae ganddo faich achosion mawr a chanddo brofiad helaeth yn ymdrin â phob agwedd ar anafiadau personol, gan gynnwys ceisiadau cymhleth a gwerth uchel.  Mae Robert hefyd yn darparu cyngor ar gyfraith trosedd a chyffredinol i Fyrddau Iechyd, pan fo’r angen.

Mae Robert yn gyfeillgar, ac yn hawdd mynd ato, ac mae’n defnyddio ymagwedd bragmatig at broblemau cyfreithiol.

Yn ei amser sbâr, mae Robert yn mwynhau mynd i’r sinema, darllen a threulio amser gyda ffrindiau a theulu. Mae’n frwd iawn dros geir clasurol, ac mae wedi cyflawni nifer o brosiectau adfer. Mae Robert hefyd yn ymarfer Aikido, ac mae ganddo wregys du 3edd gradd o dan Gymdeithas Aikido Cymru, ac mae’r hyfforddwr cymwysedig, wedi’i gydnabod gan Fwrdd Aikido Prydain.