Ymgymhwysodd Kirsty yn gyfreithiwr yn 2012, gan gwblhau ei gradd a’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cyn ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, bu Kirsty yn gweithio yn y sector preifat am dros chwe blynedd, gan hyfforddi a chymhwyso mewn cwmni yn Llundain cyn dychwelyd i Gaerdydd yn 2016.
Mae Kirsty wedi gweithredu ar ran ystod o gleientiaid gan gynnwys buddsoddwyr tramor, landlordiaid masnachol a thenantiaid, benthycwyr sefydliadol, adrannau’r llywodraeth a sefydliadau addysgiadol. Mae ganddi brofiad penodol yn ymdrin â materion landlord a thenant, caffael a gwaredu tir a rheoli portffolios.