Neidio i'r prif gynnwy

Rashmi Chakrabarti

Rashmi Chakrabarti

Daeth Rashmi yn Gyfreithiwr cymwys yn 2005.

Cafodd Rashmi ei gradd yn y gyfraith o Brifysgol Kingston, a gwnaeth y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yng Ngholeg y Gyfraith Guildford.

Cyn ymuno â’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ym mis Awst 2016, gweithiodd Rashmi mewn cwmnïau preifat am dros 13 blynedd, yn bennaf o fewn yr adran eiddo masnachol/eiddo tirol. Mae Rashmi wedi gweithredu’n eang ar ran cleientiaid cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys datblygwyr rhyngwladol, datblygwyr tai cenedlaethol, adrannau yn y llywodraeth, awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, darparwyr cartrefi gofal, derbynwyr Awdurdodau Cynllunio Lleol, cwmnïau egni adnewyddadwy a sefydliadau cyllido a benthyca amrywiol. 

Mae gan Rashmi brofiad sylweddol yn holl agweddau annadleuol gwaith eiddo, gan gynnwys caffaeliadau, gwarediadau, gwaith adeiladu safleoedd, cynlluniau datblygu ac adfywio, cymorth Menter Cyllid Preifat, materion landlord a thenant, materion ansolfedd, cymorth corfforaethol a gwaith cyllid eiddo tirol.