Ymgymhwysodd Marianne yn gyfreithwraig yn 2008 ar ôl ennill ei gradd yn y Gyfraith a chwblhau Cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste.
Cyn ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ym mis Hydref 2017, gweithiodd Marianne mewn ymarfer preifat am 9 mlynedd ym maes eiddo masnachol ac eiddo tirol. Mae Marianne wedi cynrychioli cleientiaid cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys adwerthwyr rhyngwladol a chenedlaethol, datblygwyr cartrefi gofal, datblygwyr tai cenedlaethol, adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, gwerthwyr tai cenedlaethol, benthycwyr sefydliadol ac arianwyr eraill.
Mae gan Marianne brofiad o bob agwedd ar waith ym maes eiddo, gan gynnwys caffaeliadau, gwarediadau, gwaith adeiladu safleoedd, rheoli portffolios, materion landlord a thenant, materion ansolfedd, agweddau eiddo tirol ar gaffaeliadau corfforaethol ac asedau, a gwaith ariannol ym maes eiddo tirol.
Mae gan Marianne brofiad o waith yn ymwneud â pharciau busnes, datblygiadau siopau y tu allan i’r dref, ystadau diwydiannol, safleoedd swyddfeydd a chynlluniau defnydd cymysg ynghyd â phrofiad o waith yn sectorau trafnidiaeth ac ynni adnewyddadwy.