Lansio ein Gwasanaeth Ymgynghori Pobl a Diwylliant newydd - Tîm Cyflogaeth, Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.
Rydym yn falch o rannu ein bod wedi croesawu Bron Biddle i'r Tîm Cyflogaeth yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg i rôl Uwch Ymgynghorydd Pobl a Diwylliant.
Mae Bron yn Weithiwr Proffesiynol Pobl profiadol sy'n dod ag arbenigedd newydd i'n Tîm Cyflogaeth, yn dilyn ei rôl ddiweddaraf yn gweithio'n genedlaethol o fewn y sector ambiwlans yn arwain rhaglen waith gynhwysfawr. Mae Bron yn arweinydd meddwl cydnabyddedig ym maes newid diwylliant, yn arbenigwr ar faterion diogelwch rhywiol, yn ymchwilydd medrus ar faterion cyflogaeth cymhleth ac mae’n parhau i gyfrannu ar draws sectorau. Wedi ymrwymo i waith parhaus ledled y DU, wrth sefydlu cynnig newydd i GIG Cymru, bydd arweinyddiaeth Bron yn darparu cyfeiriad newydd cyffrous i'n tîm sy'n tyfu.
Cynnig Gwasanaeth Cychwynnol
Gall Swyddog Ymchwilio annibynnol gymhwyso ei arbenigedd mewn dull diduedd, sensitif sy'n ystyriol o drawma i faterion cymhleth, a allai fod â thema groestoriadol. Ar yr un pryd, yn darparu arsylwadau dysgu sefydliadol pwysig, sy'n rhoi cipolwg ar fesurau ataliol posibl. Bydd adroddiad cynhwysfawr o ganfyddiadau yn cefnogi ffordd ymlaen deg a chymesur ar gyfer pob achos, gan amlygu nodweddion allweddol y dysgu.
Yn dilyn cyflwyno Deddf Diogelu Gweithwyr, cryfhau rheoleiddio a newidiadau cymdeithasol, mae'r hyfforddiant arbenigol hanner diwrnod hwn yn dwyn ynghyd ffactorau dynol ac arbenigedd cyfreithiol. Mae'r meysydd a gwmpesir yn yr hyfforddiant hwn yn cynnwys cyflwyniad i'r dull sy'n ystyriol o drawma, deall y gyfraith, esboniadau damcaniaethol o ysglyfaethu rhywiol a sut i gynnal yr ymchwiliad.
I ddyfnhau gwybodaeth ymhellach, mae gweithdy dilynol 2 awr ar gael hefyd sy'n canolbwyntio ar sut i adnabod a gweithredu ar batrymau ymddygiad.