Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Archwilio Arbennig i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg

 

Lexcel

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg wedi ennill Marc Ansawdd Ymarfer Cyfreithiol ar ôl asesiad dau ddiwrnod gan Gymdeithas y Cyfreithwyr. Dyfernir y wobr am gyrraedd safonau uchel o ofal cleientiaid, rheoli risg a chanlyniadau effeithiol ar faterion ffeiliau cyfreithiol. Credir mai dim ond 14% o gwmnïau cyfreithiol sy’n derbyn Nod Siarter Cymdeithas y Cyfreithwyr, sy’n cynnwys cwmnïau preifat a thimau cyfreithiol mewnol. Mae’r wobr yn dyst i safon uchel gwaith ac ymarfer Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.

Yn yr adroddiad swyddogol, nododd yr asesydd: “Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol mewnol cynhwysfawr i ymddiriedolaethau a byrddau iechyd GIG Cymru.  Mae cryfderau cyffredinol y sefydliad, a nodwyd mewn sawl adroddiad gan Lexcel yn y gorffennol, yn parhau ac, mewn sawl achos, yn cael eu hategu yma.  Mae’r cryfderau a amlygir yng nghorff yr adroddiad yn trafod pob adran y safon Lexcel.  Y cryfder mwyaf oll, o bosibl, yw diwylliant sefydliadol Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, sy’n amlygu ei hun drwy gyfathrebu clir, drwy weithio fel tîm a drwy ymrwymo i ragoriaeth gwasanaeth.”

Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg wedi ennill achrediad Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid i gydnabod eu hymrwymiad at sicrhau bod cwsmeriaid wrth wraidd eu gwasanaeth.

Nododd yr asesydd yn ei adroddiad bod gan “Wasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ddealltwriaeth ddofn am Ragoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid, yn ogystal ag ymrwymiad ato.” Roedd yr ymrwymiad hwn i’w weld o lefelau’r Uwch Dîm Rheoli i lawr i weithrediadau a staff rheng flaen.

Yn ystod yr asesiad, dyfarnodd yr asesydd bedair sgôr ‘Compliance Plus’. Dyfernir y rhain am ymddygiadau neu arferion sy’n rhagori ar ofynion y safon a chânt eu hystyried yn eithriadol neu’n esiampl i eraill. Gwobrwywyd y canlynol:

  •         Strategaeth ardderchog ar gyfer cynnwys ac ymgysylltu â chwsmeriaid a staff
  •         Mynd gam ymhellach i gael tystiolaeth gyfredol, a hynny gan gynnal ffeiliau a gedwir yn dda, er mwyn cefnogi holl elfennau Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid
  •         Ymrwymiad corfforaethol i sicrhau bod cwsmeriaid wrth wraidd y gwaith o ddarparu gwasanaeth
  •         Blaenoriaethu ffocws ar y cwsmer mewn perthynas â’n Diwrnodau Datblygu, cyfarfodydd tîm a’r sylw a roddir i ddarparu gwybodaeth i gwsmeriaid a sesiynau hyfforddiant.

Mae’r adborth gan gleientiaid a roddwyd i’r asesydd yn cynnwys sylwadau fel a ganlyn:

“Mae eu proffesiynoldeb a’u hymroddiad meddylgar bob amser yn ardderchog”

“Rydw i’n teimlo eu bod yn gymwynasgar tu hwnt. Bob amser yn barod i helpu a bob amser yn anfon cylchlythyrau da iawn”

“Diddordeb mawr ynglŷn â sut y gallant wella. Maen nhw’n wirioneddol eisiau gwrando a mynd gam ymhellach”

“Mae ethos gwaith cryf. Y bwriad yw gwneud gwaith da ar bob adeg, a hynny mewn amgylchedd gwaith da iawn”

Meddai Anne-Louise Ferguson:

“Rydw i wrth fy modd gyda chanlyniad y ddau archwiliad hyn, sy’n adlewyrchu ymrwymiad a gwaith caled pob aelod o Wasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae paratoi, trefn a gwelliant parhaus i’n hymarfer a’n hymddygiad, a gaiff eu hyrwyddo gan ein timau bach gweithgar, wedi sicrhau adroddiadau hyn yn oed mwy cadarnhaol eleni”.