Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiadau archwilio i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg

Set ragorol arall o adolygiadau archwilio i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg

 

Lexcel

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg wedi ennill Marc Ansawdd Ymarfer Cyfreithiol ar ôl ailasesiad llawn gan Gymdeithas y Cyfreithwyr. Dyfernir y wobr am gyrraedd safonau uchel o ofal cleientiaid, rheoli risg a chanlyniadau effeithiol ar faterion ffeiliau cyfreithiol. Credir mai dim ond 14% o gwmnïau cyfreithiol sy’n derbyn Nod Siarter Cymdeithas y Cyfreithwyr, sy’n cynnwys cwmnïau preifat a thimau cyfreithiol mewnol. Mae’r wobr yn dyst i safon uchel gwaith ac ymarfer Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae’r achrediad yn fwy sylweddol byth oherwydd cynhaliwyd yr asesiad craidd yn ystod dechrau cyfyngiadau symud presennol COVID-19 a chredir mai ni oedd un o’r sefydliadau cyntaf i gwblhau’r asesiad o bell.

Yn yr adroddiad swyddogol, nododd yr asesydd: “Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg wedi dangos yn gyson gydymffurfiaeth uchel iawn â gofynion Lexcel.  Nid oedd eleni yn eithriad.  Daeth llawer o gryfderau ac arferion da i’r amlwg yn ystod yr asesiad ac maent yn cynnwys gweithredu’r cynllun parhad busnes yn effeithiol; datblygiad gyrfa; rhannu arfer gorau a phwyntiau dysgu wrth ddarparu gwasanaeth; a rhaglenni hyfforddiant cynhwysfawr i staff, wedi’u derbyn a’u darparu gan staff Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg i Fyrddau Iechyd.”

 

Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg wedi ennill achrediad Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid i gydnabod eu hymrwymiad at sicrhau bod cwsmeriaid wrth wraidd eu gwasanaeth.

Nododd yr asesydd yn ei adroddiad fod “ffocws Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ar wella parhaus mewn gwasanaethau cwsmeriaid yn aruthrol. Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn cymryd camau sylweddol i roi sylw pellach ar sicrhau bod rhagoriaeth mewn gwasanaethau cwsmeriaid wrth wraidd eu darpariaeth, gyda nifer o ddatblygiadau rhagorol”

Yn ystod yr asesiad, dyfarnodd yr asesydd bedair sgôr ‘Compliance Plus’. Dyfernir y rhain am ymddygiadau neu arferion sy’n rhagori ar ofynion y safon a chânt eu hystyried yn eithriadol neu’n esiampl i eraill. Gwobrwywyd y canlynol:

  • Newidiadau sylweddol a chadarnhaol iawn i ddarpariaeth cwsmeriaid yn seiliedig ar adborth a phrofiad cwsmeriaid.
  • Mae’r cynllun Gweithio i Wella yn enghraifft wych o sut rydych yn ymgysylltu â chwsmeriaid i egluro’r hyn y gallant ei ddisgwyl. Mae canolbwyntio ar roi gwybod i gwsmeriaid a’u cynnwys o’r dechrau, a hynny er mwyn diwallu anghenion a nodwyd, yn strategaeth ardderchog er mwyn gwneud gwahaniaeth
  • Meincnodi perfformiad yn erbyn perfformiad gwasanaethau tebyg neu wasanaethau cyflenwol
  • Roedd yr Adolygiad Blynyddol wedi gallu nodi sut mae timau bellach yn mynd gam ymhellach i adnabod a mynd i’r afael ag anghenion cwsmeriaid o’r pwynt cyswllt cyntaf

Mae’r adborth gan gleientiaid a roddwyd i’r asesydd yn cynnwys sylwadau fel a ganlyn:

 ‘Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud, a’r ffordd rydym yn rhyngweithio i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, yn rhagorol’ ‘Ysbryd tîm dibynadwy iawn’

‘Yn hawdd iawn mynd atynt ar bob adeg, a bob amser yn barod i wrando. Yn amyneddgar iawn a byth yn rhoi amserlen afresymol’

‘Rydym yn ffurfio perthynas waith dda. Rydym yn cydweithio’n agos iawn. Ni allaf eu canmol ddigon’

‘Maent yn gwella eu gwasanaethau ac yn ymgynghori â phobl o ddifrif. Maent yn mynd gam ymhellach na’r hyn y byddech yn ei ddisgwyl’

Meddai Mark Harris, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg: “Roedd yn wefreiddiol cyflawni canlyniadau mor wych yn ein pymthegfed archwiliad Lexcel a’n seithfed archwiliad Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid eleni, a gynhaliwyd ar yr un adeg ag yr oedd effaith COVID-19 yn dechrau. Ni wnaethom ganiatáu hynny i’n rhwystro, ond gwnaethom fwrw ati er gwaethaf y cyfyngiadau sydd wedi’u gosod. Mae’r ddwy safon yn hanfodol ar gyfer llwyddiant ein gweithredoedd yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg, oherwydd maent yn ein cadw ar flaenau ein traed, yn ein helpu i aros yn wrthrychol wrth asesu ein perfformiad ac yn gwella ffocws ar ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid. Llongyfarchiadau a diolch o galon i’n holl staff – eu dealltwriaeth, eu gwaith caled a’u hewyllys da yw’r rheswm dros ein llwyddiant.