Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau arholiadau Network75

Mae Network75 yn llwybr sy’n cyfuno lleoliad gwaith ac astudio rhan-amser sy’n arwain at ennill gradd, gan ganiatáu i fyfyrwyr weithio, ennill arian a dysgu. Gall hyfforddeion Network75 gymhwyso eu gwybodaeth academaidd i waith bywyd go iawn yn y cwmni sy’n eu lletya, gan feithrin y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau gofynnol y mae galw mawr amdanynt gan ddiwydiant. 

Rydym yn falch iawn o’n myfyrwyr Network75 sydd wedi gweithio’n galed yn ystod y cyfnod digynsail hwn, nid yn unig yn eu hastudiaethau ond hefyd yn cefnogi ein timau sydd wedi mynd gam ymhellach i gefnogi ein cleientiaid yn ystod y pandemig.

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg wedi bod yn derbyn myfyrwyr Network75 ers dros dair blynedd ac, ar hyn o bryd, mae tri myfyriwr yn gweithio gyda ni. Dyma beth sydd gan bob un ohonynt i’w ddweud am eu canlyniadau diweddaraf, a sut brofiad fu gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Mae Robyn Kelly yn ei thrydedd flwyddyn gyda ni:

“Rydw i wrth fy modd o fod wedi pasio’r drydedd flwyddyn o’m gradd Ymarfer Cyfreithiol (Eithrio) (LLB) gyda 2:1.

Mae eleni wedi bod yn llawn heriau nad ydw i wedi dod ar eu traws o’r blaen, a synnais i fy hun pa mor dda y gwnes i allu weithio’n gyfan gwbl ar-lein wrth wneud fy nosbarthiadau. Mae’n rhaid i mi gyfaddef, ar adegau, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd bod yn gyfan gwbl ar-lein ar gyfer fy addysg, gan fy mod i’n teimlo ei bod yn gallu bod yn anodd deall cynnwys penodol a chael amser i fynd trwy’r darlithoedd. Er hyn, dydy gallu addasu i’r amgylchedd hwn a datblygu sgiliau newydd ddim yn rhywbeth roeddwn i wedi disgwyl ei ennill o’r flwyddyn hon o’m gradd.  Gwnaeth wneud imi wneud rhagor o ymchwil a defnyddio ffynonellau eraill megis llyfrgell ar-lein y Brifysgol.

Roedd eleni yn gyffrous, gan imi ddechrau astudio fy modiwlau yn rhan o Gwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC), a ganiataodd imi ddatblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau cyfreithiol ymhellach. Gwnaethant roi rhagor o fewnwelediad i sut olwg sydd ar rai agweddau ar y gyfraith a sut maent yn gweithio. Mae’n ffordd dda o dynnu eich sylw at yr hyn sydd i’w ddisgwyl gan y proffesiwn cyfreithiol. Un o’r modiwlau oedd Ymgyfreitha Sifil. Ar ôl treulio dwy flynedd mewn tîm esgeuluster clinigol, caniataodd y pwnc hwn imi gymhwyso’r wybodaeth a enillais o’r tîm hwnnw i’m hastudiaethau. Rhoddodd well dealltwriaeth imi o’r broses hefyd. Roeddwn i’n teimlo’n hyderus yn y maes hwn, a gwnaeth hynny helpu fy astudiaethau. Rydw i’n teimlo na fyddwn i wedi llwyddo cystal ag y gwnes i yn y pwnc penodol hwn pe na fyddwn i wedi bod yn gweithio i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg a phe na fyddwn i’n  derbyn cefnogaeth ganddynt.

Rydw i’n edrych ymlaen at bedwaredd flwyddyn fy astudiaethau. Yn y bedwaredd flwyddyn, byddaf yn rhan o Glinig Cyngor Cyfreithiol y Brifysgol, sy’n cynnig cyngor cyfreithiol am ddim mewn ystod o feysydd. Rydw i’n edrych ymlaen at ddysgu rhagor am feysydd nad ydw i wedi dod i gysylltiad â nhw eto, ac rydw i’n gobeithio y bydd hyn yn datblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau ymhellach.  Byddaf hefyd yn dechrau astudio a chwblhau rhagor o fodiwlau LPC.”

 

Mae Amy Bartlett newydd gwblhau ei thrydedd flwyddyn gyda ni hefyd:

“Rydw i wrth fy modd o fod wedi pasio fy arholiadau trydedd flwyddyn o Gwrs Ymarfer y Gyfraith (LLB) gyda 2:1. Rydw i’n cwblhau fy ngradd ar hyn o bryd ynghyd â gweithio gyda Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg o dan gynllun o’r enw Network75. Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn sefydliad anhygoel sydd wedi bod yn rhan hanfodol o’m llwyddiant yn fy astudiaethau academaidd.

 Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn her enfawr yn y gwaith ac yn y Brifysgol. Yn sgil y pandemig, rydw i wedi dysgu i weithio’n annibynnol ac o bell. Nid yw hyn wedi bod yn hawdd, ac mae addasu i’r ffyrdd newydd o weithio wedi gofyn am addasu sylweddol a llawer o amynedd, ond rydw i’n teimlo’n llawer mwy hyderus nawr nag yr oeddwn i amser hyn y llynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, rydw i wedi bod yn gweithio yn y Tîm Masnachol, Rheoleiddiol a Chaffael. Trwy weithio gyda nhw, mae fy set sgiliau wedi datblygu’n sylweddol ac rydw i bellach yn angerddol am y maes gwaith. Rydw i wedi derbyn cefnogaeth gan y tîm ym mhob carreg filltir a chefais fy ngwthio i ehangu fy ngwybodaeth. Rydw i wedi mwynhau pob munud, hyd yn oed yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Y flwyddyn nesaf, rydw i’n edrych ymlaen at fynd ymlaen i fy mhedwaredd flwyddyn o astudio ac i ymuno â’r tîm esgeuluster clinigol, a’r gobaith yw dychwelyd i’r swyddfa hefyd. Byddaf yn gwneud fy ngorau glas i barhau i weithio’n galed er mwyn gwneud cynnydd yn fy addysg a’m harbenigedd yn y gyfraith.”

 

Mae Ffion Price newydd orffen ei blwyddyn gyntaf gyda ni:

“Heb os, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn o newid i mi, ond hefyd o gyflawni. O basio fy mhrawf gyrru, i gael y brentisiaeth i weithio yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg, ac yna i basio fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol! Rydw i’n falch iawn ohonof i fy hun ac alla i ddim credu popeth sydd wedi digwydd mewn cyfnod o flwyddyn, yn enwedig gan fod COVID-19 wedi cael effaith ar bopeth. Rydw i’n edrych ymlaen at gyfarfod â phobl wyneb yn wyneb cyn bo hir gobeithio, ac at brofi gweithio mewn swyddfa!”

 

Dywedodd ein Cyfarwyddwr, Mark Harris:

“Llongyfarchiadau i Robyn ac Amy ar gwblhau eu trydedd flwyddyn gyda chanlyniadau mor ardderchog, a hefyd i Ffion ar gwblhau ei blwyddyn gyntaf. Maent wedi cyflawni hyn mewn cyfnod rhyfedd a digynsail. Diolch hefyd am yr holl waith ardderchog mae pob un ohonynt wedi bod yn ei gwblhau yn eu rolau yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Rydw i’n siŵr y bydd y cyfuniad o’u dysgu academaidd a’u profiad ymarferol yn eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer eu gyrfaoedd arfaethedig fel cyfreithwyr cwbl gymwys. Da iawn!”