Mae’r Tîm Cwestau yn rhan o Dîm Cleifion Cymhleth (COP) yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC. Mae'r tîm yn cynnwys: Gavin Knox, Arweinydd y Tîm, Uwch Gyfreithwyr: Kamila Kubryn, Patricia Gaskell a Kathy Dwyer a'r cyfreithiwr Ceri Burke. Cynorthwyir y tîm gan dîm amhrisiadwy o baragyfreithwyr, sef Yasmin Kerton, Rebecca Czerniak a Molly Nicholls yn ogystal â’r ysgrifennydd Heidi Desscan.
Mae'r tîm yn edrych i ychwanegu mwy o bobl at y tîm eleni felly gwyliwch y wefan hwn i gael newyddion am swyddi gwag y byddwn yn hysbysebu amdanynt yn y dyfodol.
Y Tîm Cwestau yw prif ddarparwr cyngor a chymorth i bob Bwrdd Iechyd a sefydliad gofal iechyd yng Nghymru. Mae’r tîm yn cynghori ar y cwestau mwyaf hir, cymhleth ac uchel eu proffil yng Nghymru.
Mae ein meysydd arbenigedd yn cynnwys:
- Cynghori ar geisiadau Crwneriaid am ddatgelu tystiolaeth ddogfennol, Gwysion Tystion a mynd i’r Adolygiad Cyn Cwest.
- cefnogi ein cleientiaid a'u gweithwyr drwy broses y Cwest.
- cynghori ar gwestau'n ymwneud ag ymchwiliadau'r Heddlu / yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) / yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth (PPO) yn dilyn marwolaeth ac ymchwiliad gan Grwner.
- cynghori ar ddiogelwch cleifion a Dyletswydd Gonestrwydd.
- adolygu ymchwiliadau mewnol a chynghori ar argymhellion a chynlluniau gweithredu.
- cael ymchwiliadau allanol a chyfarwyddyd gan arbenigwyr.
- Gweithio gyda thimau esgeuluster clinigol mewn achosion priodol i sicrhau dull cydgysylltiedig o ymdrin â hawliadau a chwynion sydd wedi bod yn destun ymgyfreitha.
- cefnogi tystion wrth baratoi ar gyfer Cwestau
- Deddf Meinweoedd Dynol 2005 ac archwiliadau post-mortem.
- eiriolaeth yng nghwestau Crwneriaid, gan gynnwys Erthygl 2 a Chwestau Rheithgorau, yn aml pan fydd
Personau Eraill â Diddordeb yn cael eu cynrychioli gan Gwnsler.
- Cynghori ar gwestau Erthygl 2 cymhleth, gan gynnwys honiadau o esgeuluster difrifol, dynladdiad ac esgeuluster.
- drafftio datganiadau dysgu gwersi, cynghori ar ymatebion i adroddiad a gyhoeddir gan Grwner.
- hyfforddiant ym mhob agwedd ar gyfraith grwnerol, gan gynnwys dynladdiad corfforaethol ac awgrymiadau ymarferol ar ysgrifennu datganiadau ar gyfer y Crwner a rhoi tystiolaeth yn y Llys.
- adolygiad barnwrol o benderfyniadau Crwneriaid.
- delio gyda'r cyfryngau, gan gynnwys drafftio cyfathrebiadau i'r wasg.
Mae’r Tîm yn hefyd mynychu, yn cynghori ac yn cyfrannu at gyfarfodydd Rhwydwaith Diogelwch a Dysgu Cwestau gyda holl Fyrddau Iechyd Cymru.
Gyda phrofiad a gwybodaeth mor eang, gall y Tîm Cwestau roi cyngor arbenigol ar bob mater sy'n ymwneud â Chwestau. Os oes gennych ymholiad, cysylltwch â mewnflwch y tîm - legalandriskcopteam@wales.nhs.uk