Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod â'r Tîm - Cwm Taf Morgannwg

 

Tîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Iechyd Cyhoeddus Cymru Cwm Taf team

Mae tîm Esgeulustod Clinigol Cwm Taf Morgannwg yn delio ag amrywiaeth eang o hawliadau gan gynnwys oedi wrth wneud diagnosis, diagnosis anghywir, hawliadau obstetrig ac anafiadau gwerth uchel, i enwi ond ychydig. Mae'r tîm hefyd yn cynghori ac yn cynrychioli eu cleientiaid mewn Cwestau, yn cynghori ar faterion o dan y cynllun Gweithio i Wella ac yn cynorthwyo gyda chyngor cyffredinol ad-hoc.

Y Tîm

Vanessa Llewellyn yw rheolwr y tîm. Mae Vanessa wedi gweithio i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg ers ei sefydlu, gan ddarparu cyngor arbenigol ar hawliadau gwerth uchel, gan gynnwys babanod â niwed i'r ymennydd ac anafiadau i'r cefn. Mae hi hefyd yn cynrychioli cleientiaid mewn Cwestau.

Mae Kara Bowen yn delio ag amrywiaeth eang o hawliadau, gan gynnwys hawliadau gwerth uchel. Yn ei hamser hamdden, mae Kara yn mwynhau mynd â’i chi am dro ar hyd ei thraeth lleol.

Mae Lydia Walker, sydd yn wreiddiol o ddinas dirgloëdig Coventry, yn delio ag amrywiaeth eang o faterion esgeulustod clinigol, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn achosion y colon a'r rhefr a llawdriniaethau cyffredinol. Mae hi'n mwynhau treulio ei phenwythnosau ar y traeth yn mynd â’i chi Beau am dro. Mae Lydia wedi darganfod ioga yn ddiweddar ac mae'n mwynhau'r sesiwn myfyrdod ar y diwedd yn benodol (mae'n addo nad y hi yn sicr oedd yr ‘aelod o'r gampfa' a oedd yn cysgu ar y diwedd...!). Mae Lydia yn gaeth i raglenni teledu am wella’r cartref ac mae bob amser yn meddwl am syniadau a phrosiectau i'w cwblhau yn y cartref, er mawr siom i'w phartner!

Mae Natalie Savage wedi gweithio i'r tîm ers cymhwyso fel Gweithredwr Cyfreithiol yn 2017. Mae'n delio ag amrywiaeth o hawliadau, yn enwedig rhai o natur sensitif, a allai arwain at Gwestau. Mae Natalie yn mynd ati i hyrwyddo llwybr CILEx i gymhwyso yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg, gan gyd-gynnal gweithgor lle mae hi a'i chydweithiwr yn annog staff iau i gofrestru gyda CILEx ac yn cynorthwyo'r rhai sydd ar eu llwybr i gymhwyso. Yn ei hamser hamdden, bydd Natalie yn aml yn pobi ar gyfer gwerthiannau pobi i elusen ac i’w theulu a’i ffrindiau. Mae hi hefyd yn awyddus i gadw ei thŷ mor lân â Mrs Hinch (er y byddai ychydig o oriau ychwanegol yn y dydd yn help wrth gyrraedd ei safonau!). Mae Natalie hefyd yn mwynhau teithio, yn enwedig i Orllewin Cymru, lle mae'n mwynhau crwydro ar hyd y traethau a'r trefi.

Mae Alex Burke ar fin ymuno â'r tîm ym mis Medi 2019, ar ôl cymhwyso'n ddiweddar fel Gweithredwr Cyfreithiol. Mae Alex yn ymuno â'r tîm o'r adran anafiadau personol ac mae'n edrych ymlaen at dorchi ei llewys a mynd i’r afael â’r maes cyfraith newydd hwn. Er bod edrych ar ôl ei merch ifanc yn mynd â’r rhan fwyaf o'i hamser hamdden, mae Alex yn mwynhau mynd â’i chi am dro, darllen nofel ias a chyffro a phobi yn yr ychydig amser sydd ganddi ar ôl.

Ymunodd Alun Rees â'r tîm bron i flwyddyn yn ôl fel paragyfreithiwr. Mae'n cynorthwyo'r tîm i ymchwilio i wahanol hawliadau, gan feithrin ei wybodaeth a'i sgiliau ym mhob maes o esgeulustod clinigol. Yn ddiweddar, mae Alun wedi cofrestru i astudio gyda CILEx, gyda'r nod o gymhwyso fel Gweithredwr Cyfreithiol o fewn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Y tu allan i'r gwaith, mae Alun yn chwarae rygbi i Glwb Rygbi Llanymddyfri, sy'n rhan o Uwch Gynghrair Cymru. Mae hefyd yn mwynhau teithio.

Claire Sykes yw ysgrifennydd y tîm. Mae’n cynorthwyo gyda thasgau gweinyddol ac ysgrifenyddol amrywiol. Mae Claire wedi bod yn ysgrifennydd i'r tîm ers 1999. Yn ei hamser hamdden mae Claire yn mwynhau treulio amser gyda'i theulu, mynd â’i chi am dro a darllen. Ei huchelgais yw ymddeol i Paignton un diwrnod, lle mae hi wedi mwynhau llawer o wyliau teuluol hapus.

Ardal Ddaearyddol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu gofal iechyd i dros 450,000 o bobl sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Darperir gofal mewn pedwar prif ysbyty, sef Ysbyty’r Tywysog Siarl, Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Dewi Sant, ynghyd ag ysbytai llai eraill sydd wedi'u gwasgaru ledled y Cymoedd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ledled Cymru. Er nad yw'n darparu triniaeth yn yr ysbyty, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol sy'n bodoli er mwyn amddiffyn a gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.

Hyfforddiant

Mae'r tîm yn darparu hyfforddiant i gleientiaid a chlinigwyr yn rheolaidd drwy ddarlithoedd unigol ar bynciau amrywiol yn ogystal â mynychu diwrnodau hyfforddi. Mae peth o'r hyfforddiant a gynigiwyd yn y gorffennol yn cynnwys diweddariadau ar ‘Esgeulustod Clinigol’, ‘Agweddau Cyfreithiol ar Imiwneiddio’ a ‘Gweithio i Wella’.

Mae'r tîm hefyd yn cynorthwyo'r Bwrdd Iechyd gyda materion ehangach ac yn ddiweddar mae wedi cynghori ar fodiwl e-ddysgu newydd ar gydsynio i driniaeth. Y gobaith yw y bydd hyn yn hysbysu clinigwyr am y gyfraith sy'n ymwneud â chydsynio a bydd yn eu cynorthwyo o ddydd i ddydd wrth sicrhau cydsyniad.

Mae'r tîm hefyd wedi ymrwymo i ddeall prosesau a gweithdrefnau meddygol mewn cymaint o fanylder â phosibl a byddant yn trefnu ac yn mynychu sesiynau hyfforddi meddygol yn rheolaidd ochr yn ochr â meddygon a nyrsys. Mae hyfforddiant blaenorol wedi cynnwys mynychu cwrs 'Llwybr Canser y Colon a'r Rhefr', lle'r oedd y cyfranogwyr yn ddigon ffodus i weld llawdriniaeth laparosgopig fyw yn cael ei chyflawni, a chwrs PROMPT (hyfforddiant aml-broffesiynol obstetreg ymarferol), lle'r oedd y cyfranogwyr yn gallu helpu gydag argyfyngau obstetrig ffug.

Trwy gynnig a derbyn hyfforddiant o'r fath, mae perthnasoedd cryf yn cael eu meithrin gyda'r clinigwyr sy’n arwain at ymchwiliadau effeithiol. 

Newyddion diweddar

Ar 1 Ebrill 2019, daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys Ysbyty Tywysoges Cymru. Roedd yn newid gweinyddol yn bennaf, gyda gwasanaethau a staff yn aros fel o’r blaen. Fodd bynnag, arweiniodd at newid enw er mwyn cynrychioli'r ffin ddaearyddol newydd.

Mae'r tîm yn cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg er mwyn sicrhau bod hawliadau yn cael eu trosglwyddo’n llyfn rhwng y byrddau iechyd.