Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod a'r tîm - Tîm Anafiadau Personol

 

PI TeamY mis hwn, dyma gyflwyno Tîm Anafiadau Personol Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Andrew Hynes yw arweinydd y tîm, sy’n cynnwys cymysgedd amrywiol o raddedigion CILEx, cyfreithwyr, cyfreithwyr dan hyfforddiant, myfyriwr Network75, ysgrifenyddion cyfreithiol a pharagyfreithwyr.

Ein Gwaith

Mae’r adran yn delio â hawliadau am anafiadau personol ledled pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru. Bydd aelod o’r tîm yn delio â phob Bwrdd Iechyd ac mae perthnasau agos gyda’n cleientiaid yn hanfodol. Gall yr hawliadau y bydd y tîm yn eu derbyn amrywio o hawliadau gwerth isel llithro a baglu i faterion mwy cymhleth fel mesothelioma a digwyddiadau sy’n arwain at anafiadau parhaol.

Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais

Mae Andrew wedi bod yn ymgymryd â’i rôl ers 1998 ac mae wedi bod yn rhan o amrywiaeth o brosiectau. Y prosiect diweddaraf oedd y Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais o’r enw “Ymatebion Gorfodol i Drais ym maes Gofal Iechyd”, sydd wedi cael ei fabwysiadu fel Cylchlythyr Iechyd Cymru. Dyma rai o amcanion y Grŵp Cydweithredol:

  1. Gwella adrodd am ddigwyddiadau treisgar
  2. Cryfhau’r broses ymchwilio ac erlyn, trwy wella ansawdd gwybodaeth a phrydlondeb wrth ei rhannu
  3. Gwella gofal i ddioddefwyr a’u hyder

Diwrnod Anafiadau Personol

Mae’r tîm yn gweithio’n dda gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’n cleientiaid, gan gynnwys diwrnod addysg ddwywaith y flwyddyn. Mae Diwrnod Anafiadau Personol yn rhoi cyfle i gydweithwyr sydd yn rhan o’r broses gyfreithiol ledled Byrddau Iechyd GIG Cymru ddiweddaru ac adfywio eu gwybodaeth gyfreithiol. Mae hefyd yn gyfle iddynt rwydweithio.

Mae siaradwyr gwadd fel Bargyfreithwyr wedi cynnal trafodaethau ar ystod o bynciau a ffug dribiwnlysoedd cyffrous.

Mae Diwrnod Anafiadau Personol bob amser yn boblogaidd ac mae’n derbyn llu o adborth cadarnhaol.

Myfyriwr Network75

Eleni am y tro cyntaf, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi derbyn myfyriwr yn rhan o raglen Network75 – llwybr, mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, sy’n arwain at radd drwy gyfuno gwaith ac astudio.

Mae’r cyfle unigryw hwn un galluogi’r myfyriwr i gymhwyso ei wybodaeth academaidd i waith go iawn ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Ymunodd Amy Bartlett â’r Tîm Anafiadau Personol yn rhan o’r rhaglen ac mae “eisoes wedi dysgu llawer iawn o wybodaeth yn y swyddfa y gallaf ei chymhwyso i fy nghwrs er mwyn helpu gyda fy astudiaethau. Mae gennyf lawer mwy o ddealltwriaeth o'r hyn y mae paragyfreithiwr/cyfreithiwr yn ei wneud ac yn gwybod beth a ddisgwylir gennyf er mwyn cyflawni'r rolau hyn un diwrnod...Rwy’n dysgu bob un dydd ac wrth fy modd â phob agwedd ar y cynllun.”

Mae Amy yn gaffaeliad mawr i’r tîm ac mae wedi creu argraff arnom i gyd gyda’i pharodrwydd i helpu.

Tîm y Flwyddyn 2017

Enillodd y Tîm Anafiadau Personol y wobr ar gyfer Tîm y Flwyddyn yng Ngwobrau Cydnabyddiaeth Staff Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru 2017.

Roedd y beirniaid yn llawn edmygedd o ddatganiad cenhadaeth y tîm, “Bod y gorau, gwneud y mwyaf, arloesi”. Y datganiad cenhadaeth yw canolbwynt arfer arloesol y tîm ac mae cyfranogiad a brwdfrydedd y tîm yn anhygoel.

Meddai’r beirniad: “Mae’r tîm hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau i godi arian y tu allan i’r gwaith. Roedd y beirniaid o’r farn bod y tîm hwn yn enillydd teilwng yng nghategori Tîm y Flwyddyn Partneriaeth Cydwasanaethau 2017”.

Os hoffech chi wybod mwy am ein tîm, ewch i’n gwefan ac i’n proffiliau unigol. Fel tîm, rydym yn gweithio’n hynod o galed ac yn falch o’r lefel uchel o wasanaeth rydym yn ei darparu i’n cleientiaid.