Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod â'r Tîm - Tîm Esgeulustod Clinigol Gofal Sylfaenol

 

Cefndir

Ffurfiwyd y Tîm Esgeulustod Clinigol Gofal Sylfaenol ym mis Ebrill 2019 ar ôl i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg gael eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i weithredu’r Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol. 

Mae’r Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol yn gynllun a gefnogir gan y wladwriaeth sy’n darparu indemniad i ddarparwyr gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru am iawndal sy’n deillio o hawliadau esgeulustod clinigol sy’n ymwneud â gofal, diagnosis a thriniaeth claf yn dilyn digwyddiadau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019.

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud

  • Rheoli’r holl agweddau ar hawliadau esgeulustod clinigol a gafwyd gan yr Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol, o weithredu ymlaen llaw i dreialu a chostau
  • Cynorthwyo yn y broses gwersi a ddysgwyd – nodwedd allweddol o’r Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol i sicrhau y ceir dysgu gwerthfawr yn y lleoliad gofal sylfaenol hyd yn oed pan nad oes rhwymedigaeth
  • Rhoi cyngor mewn perthynas â chwynion sy’n codi yn erbyn practisiau meddygon teulu a’u staff o dan y Rheoliadau Gweithio i Wella
  • Rheoli cyfeiriad e-bost yr Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol penodol a llinell gymorth hawliadau ar gyfer staff ymarfer meddygol cyffredinol a staff y Bwrdd Iechyd i roi gwybod am hawliadau esgeulustod clinigol posibl neu wirioneddol yn ogystal ag ymholiadau am y cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol
  • Darparu hyfforddiant i staff meddygon teulu a staff y Bwrdd Iechyd – ar hyn o bryd, rydym yn darparu hyfforddiant ledled Cymru ar y cynllun newydd ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol
  • Gweithio’n agos â’r tîm masnachol a Chronfa Risg Cymru o fewn Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn ogystal â sefydliadau eraill o fewn PCGC i sicrhau bod rhanddeiliaid yn gallu cael mynediad at ganllawiau a chymorth am yr holl agweddau ar yr Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol. 

Cwrdd â’r Tîm

Caiff y tîm ei arwain gan Heather Grimbaldeston, cyfreithiwr sydd â phrofiad helaeth o weithredu dros ddarparwyr gofal sylfaenol. Cymhwysodd Heather fel cyfreithiwr yn 2002. Ymunodd Heather â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2017 fel cyfreithiwr yn nhîm Esgeulustod Clinigol Hywel Dda gan ymdrin â hawliadau esgeulustod clinigol gofal eilaidd cyn symud i’w rôl fel arweinydd tîm y Tîm Esgeulustod Clinigol Gofal Sylfaenol ym mis Ebrill 2019.

Cyn ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, roedd Heather yn bartner i dîm gofal iechyd amddiffynnol i gwmni cyfreithiol wedi’i leoli yn Llundain yn gweithredu ar ran Meddygon Teulu, staff practis a darparwyr gofal sylfaenol eraill mewn lleoliadau amrywiol. O fewn y rôl hon, roedd Heather yn rheoli llinell gymorth gyfreithiol 24 awr a oedd ar gael i feddygon a deintyddion. 

Pan nad yw Heather yn y swyddfa, mae’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored gyda’i theulu a’i ffrindiau, boed hynny’n gerdded neu seiclo yng nghefn gwlad Cymru. Mae Heather yn dysgu Cymraeg a phan mae’n cael cyfle, mae’n adnewyddu ei thŷ. 

Mae Charlotte Pritchard yn gyfreithiwr ac mae wedi bod yn rhan o dîm Esgeulustod Clinigol Gofal Sylfaenol ers ei ffurfio ym mis Ebrill 2019. Astudiodd Charlotte ei gradd yn y Gyfraith a Chwrs Ymarfer y Gyfraith (rhan amser) ym Mhrifysgol Caerdydd ac ymunodd â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fel paragyfreithiwr yn 2013. Aeth Charlotte ati i gwblhau ei chontract hyfforddi â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a chymhwyso fel cyfreithiwr yn 2016 yn nhîm Esgeulustod Clinigol Caerdydd a’r Fro.   Mae gan Charlotte brofiad o ddelio ag amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud ag esgeulustod clinigol mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae Charlotte hefyd yn cynghori ar yr holl agweddau a godir drwy Reoliadau Gweithio i Wella. 

Y tu allan i’r gwaith, mae Charlotte yn cadw’n heini drwy fynd i ddosbarthiadau dawns a ioga yn ogystal â beicio mynydd yn achlysurol. Mae Charlotte wrth ei bodd ag anifeiliaid ac mae wedi bod yn wirfoddolwr ymroddedig wrth gerdded cŵn i Gartref Cŵn Caerdydd am nifer o flynyddoedd.

Ymunodd Stephanie Williams â’r tîm ym mis Gorffennaf 2019. Symudodd Stephanie o Reading i gwblhau Cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd ei hyfforddi yng Nghyfreithwyr Hugh James yng Nghaerdydd a chymhwysodd yn 2015. Ar ôl iddi gymhwyso, arbenigodd Stephanie mewn hawliadau esgeulustod meddygol a Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG ar ran hawlwyr. Mae gan Stephanie ystod eang o brofiadau o bob mathau o hawliadau esgeulustod clinigol gan gynnwys hawliadau Meddygon Teulu, anafiadau orthopedig, hawliadau obstetreg, marwolaethau newyddenedigol a marw-enedigaethau, camgymeriadau o ran cyffuriau, hawliadau camddiagnosis, hawliadau deintyddol a hawliadau yn erbyn cartrefi nyrsio yn ymwneud â methu â gofalu am yr henoed. 

Yn ei hamser hamdden, mae Stephanie yn codi arian i Gymdeithas Alzheimer’s Cymru ac am nifer o flynyddoedd bellach, mae hi wedi bod yn Gadeirydd ar Grŵp Codi Arian Gwirfoddoli Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd â bwyd da yng nghwmni ei ffrindiau ac yn ceisio tyfu ffrwythau a llysiau yn ei gardd fechan yn y ddinas. Mae Stephanie hefyd yn aelod o Gynghrair Pêl Feddal Caerdydd ac mae’n mwynhau chwarae mewn twrnameintiau dros y penwythnos o gwmpas de’r DU yn ystod tymor y bêl feddal.

Cynorthwyir y tîm gan dîm cyfreithiol esgeulustod clinigol profiadol sy’n cynnwys oddeutu 18 aelod o staff sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i ateb galwadau a geir i linell gymorth yr Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol.

Cysylltwch â’r tîm ar bob cyfrif os ydych chi eisiau trafod unrhyw ymholiadau’n ymwneud â’r Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol neu os ydych chi eisiau trefnu hyfforddiant i’ch tîm.

  • Gallwch gysylltu â’r tîm trwy linell gymorth yr Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol:  02920905454 (ar agor 9–5 Dydd Llun–Dydd Gwener ar wahân i Wyliau Banc) neu drwy anfon e-bost at: gmpi@wales.nhs.uk
  • Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol ar ein gwefan gan gynnwys ein canllawiau manwl ar yr Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol a chwestiynau cyffredin http://www.nwssp.wales.nhs.uk/general-medical-practice-indemnity.