Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor Craff ar gyfer Arweinyddiaeth Lwyddiannus Yn Y Sector Cyhoeddus

Ar adeg fy erthygl ddiwethaf ar gyfer Inside Out ym mis Mehefin, roeddem yng nghanol y pandemig.  Roeddem yn ymateb i geisiadau brys am gyngor gan ein cleientiaid yn GIG Cymru, gan roi strwythurau cymorth ar waith ar gyfer cydweithwyr a thimau a sicrhau ein bod i gyd yn aros yn bwyllog, mewn rheolaeth ac na chawsom ein gorlethu, yn bersonol ac fel sefydliad. 

Mae'r dirwedd yn wahanol iawn yn y “normal newydd” hwn nawr, ond mae hynny'n dod â llawer o heriau newydd - a chyfleoedd unigryw - i arweinwyr yn y sector cyhoeddus. Mae’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo nawr yr un peth ag yr oedden nhw cyn i’r pandemig ddechrau, ond mae eu safle o ran pwysigrwydd wedi newid.

 

Byddwch yn weladwy

Mae llawer ohonom wedi colli'r strwythurau cymorth meddal oedd yn bodoli yn ein bywydau gwaith blaenorol.  Mae'r cyfleoedd i ddal i fyny wrth ymyl y peiriant coffi a'r sgyrsiau “helo, sut ydych chi?” ar y ffordd i'n desgiau yn teimlo fel eu bod yn bell yn ôl.  Mae hyn yn peryglu'r hyn sy'n gwneud ein sefydliadau yn wahanol, yn arbennig ac yn bersonol.  Oni bai bod arweinwyr yn llenwi'r bylchau hyn, yn tynnu pawb at ei gilydd ac yn arwain gyda chalon a thosturi, mae hyn mewn perygl o gael ei golli am byth.  Ni allwch fod yn arweinydd effeithiol os nad yw'r rhai yr ydych yn eu harwain yn gweld eich bod yn bresennol, yn hygyrch ac yn rhan o'r tîm.  Ceisiwch fynychu cymaint o gyfarfodydd ag y gallwch. Rhowch eich camera ymlaen.  Mae gweld wyneb rhywun yn bwysig a rhaid ichi arwain drwy esiampl.  Codwch eich proffil yn eich sefydliad ac y tu allan iddo Cofiwch: pell o’r golwg, pell o’r meddwl.

 

Rhowch flaenoriaeth i gynnal perthnasoedd

Mae perthnasoedd da yn hanfodol i lwyddiant eich sefydliad, a'ch lles a'ch hapusrwydd eich hun.  Mae gweithio o bell yma i aros ac mae llawer o'r rhyngweithiadau cymdeithasol wyneb yn wyneb a adeiladodd, a sefydlodd ac a ddatblygodd perthnasoedd dros amser, wedi diflannu. Defnyddiwch yr amser y gallech fod yn ei arbed o deithio i’r gwaith bob dydd i adeiladu ac i gynnal perthnasoedd. 

Y pethau bychain sy'n gwneud gwahaniaeth.  Ffoniwch rywun a gofynnwch iddo sut mae e a’i deulu, yn lle anfon e-bost.  Mae dod trwy'r ychydig fisoedd diwethaf gyda'n gilydd wedi creu cysylltiadau cryf ar draws llawer o sefydliadau'r sector cyhoeddus. Sut ydych chi'n sicrhau bod cydweithwyr newydd yn teimlo'n rhan o'r timau agos hyn? Defnyddiwch eich dychymyg a dewch o hyd i ffyrdd newydd i chi ac i bobl eraill ddod i adnabod eich gilydd, a gwnewch y rhai sy'n ymuno â'ch sefydliad ar yr adeg hon yn rhan bwysig ohono. Mae rhoi o’ch amser i rywun yn anfon neges glir iawn ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i barchu. 

 

Byddwch yn arloesol ac yn gynhwysol

Cyn y pandemig, pwy fyddai wedi credu pa mor gyflym y byddai'r sector cyhoeddus yn gallu addasu, y byddai ei brosesau’n cael eu symleiddio ac y byddai penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud? Manteisiwch ar y momentwm cyfredol ac ystyriwch pa newidiadau eraill y gellid / y dylid eu cyflwyno nawr i wella effeithlonrwydd, ansawdd y gwasanaeth a lles staff. Ymgorfforwch unrhyw newidiadau rydych chi eisoes wedi'u gwneud yr ydych chi am iddynt fod yn barhaol. Anogwch bawb rydych chi'n ei arwain i ofyn yr un cwestiynau i'w hunain.

 

Heriwch eich hunan a phobl eraill

Bydd rhai arweinwyr yn ei chael hi'n anodd addasu i'r cyfnod o newid hwn.  Gofynnwch i'ch hun a oes yna feysydd y gallech chi fod yn perfformio'n well ynddynt.  Os felly, gofynnwch am help a hyfforddiant er mwyn i chi ddysgu’r sgiliau angenrheidiol hyn a rhannwch y rhain gyda’ch cydweithwyr.  Os oes gennych fylchau yn eich sgiliau a'ch gwybodaeth, bydd pobl eraill yn yr un sefyllfa, a gorau po fwyaf o gyfleoedd i gwrdd o bell.  Gall effaith arweinwyr unigol ar forâl, lles staff a diwylliant sefydliadol fod yn llawer mwy mewn amgylchedd gweithio o bell. Os ydych chi'n pryderu bod arweinydd arall yn ei chael hi'n anodd arwain yn yr hinsawdd sydd ohoni, siaradwch â fe a cheisiwch ei helpu.

 

Byddwch yn ddewr

Meddyliwch y tu hwnt i'ch sefydliad. Beth yw'r synergeddau newydd sy'n dod i'r amlwg rhwng eich sefydliad a'ch cyrff partner, a’ch darpar gyrff partner yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector?  Sut allwch chi gefnogi a dysgu oddi wrth eich gilydd mewn ffyrdd newydd? Pa adnoddau allwch chi eu rhannu a pha gyfrifoldebau allwch chi eu cyflawni gyda'ch gilydd? Dylech arwain trwy esiampl, ac estyn allan a darganfod sut y gallwch chi weithio gyda'ch gilydd. 

 

Byddwch yn gadarn

Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau'r sector cyhoeddus yn newid ar gyflymder na welwyd o'r blaen. Mae strwythurau sy’n rhy hierarchaidd yn cael eu symleiddio, mae cydweithwyr sydd wedi gorweithio oherwydd yr ymateb i’r pandemig yn gadael ac mae blaenoriaethau a pherthnasoedd sefydliadol yn newid.  Efallai y bydd rhai newidiadau yn herio'ch ymdeimlad o ddiogelwch, hyder a'ch ymdeimlad o gael eich gwerthfawrogi.  Er bod hunan-fyfyrio bob amser yn dda, nid yw’n dda amau’ch hun. Cofiwch bopeth rydych chi wedi'i gyflawni, atgoffwch eich hun o'ch gwerthoedd a'ch nodau personol, addaswch a chamwch ymlaen, gan fynd â'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu o'r broses gyda chi.

 

Byddwch yn garedig â chi'ch hun

Mae cyfradd heintio COVID-19 yn codi, ac mae'r gaeaf bron wedi cyrraedd. Rydym yn dechrau cyfnod atal byr cenedlaethol yng Nghymru ac, fel llawer o bobl, nid wyf wedi cwrdd ag unrhyw un rwy'n gweithio gyda nhw'n bersonol ers dros chwe mis. Mae pawb dan bwysau ac ar brydiau yn ei chael hi'n anodd ymdopi.  Peidiwch â bod ofn gofyn am help a chymryd saib i orffwys, hyd yn oed os na allwch fynd i unman. Grymuswch bobl eraill i arwain ac i rannu'r cyfrifoldebau.  Mae hwn yn gyfle gwych i ddarpar arweinwyr gamu i’r adwy.  Os ydych chi'n gweithio gartref, gwnewch eich lle gwaith mor gyffyrddus â phosib (dw i’n credu bod cannwyll bersawrus yn gwneud gwahaniaeth mawr), gadewch i'ch anifeiliaid anwes ymuno â chi, a phrynwch goffi da!