Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Datblygu Cyfreithiol a Risg

 

Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd ein 3ydd ‘Diwrnod Datblygu’ ar gyfer yr adran gyfan yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd. Mae'r Dyddiau Datblygu wedi cael eu gweithredu i roi cyfle i staff adael eu hamgylchedd gwaith arferol a rhyngweithio â'i gilydd mewn lleoliad cwbl wahanol.

laughing yogaDechreuodd y diwrnod gyda sesiwn ryngweithiol gan Lotte Mikkelsen sy’n dysgu Yoga Chwerthin. Er ein bod yn amheus i ddechrau, cafodd ei groesawu'n fawr gan staff a welodd hi’n gwella straen ar unwaith ac ynhelpu i newid meddylfryd pobl. Mae'n naturiol bod heriau rhwng pobl mewn unrhyw sefydliad. Chwerthin yw un o'r ffyrdd hawsaf o gysylltu, mae'n ddi-eiriau, yn ddi-hierarchaidd ac yn draws-ddiwylliannol.

Roedd gweddill agenda'r diwrnod yn cynnwys:

  • IMTP Diweddarwyd gan ein Pennaeth Cynllunio Iain Hardcastle
  • Diweddariad Indemniad Meddygon Teulu - cyflwynwyd gan Heather Grimbaldeston
  • Diweddariadau tîm - diweddariad 15 munud gan dimau ar brosiectau / achosion proffil uchel diweddar a chrynhoad gan ein Rheolwr Busnes ar yr archwiliadau Lexcel a CSE llwyddiannus yn ddiweddar.
  • Diweddariad GDPR - cyflwynwyd gan Tim Knifton, Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth.

Iain Hardcastle