Neidio i'r prif gynnwy

Network 75 - Y Flwyddyn Gyntaf

Dyma ddiwedd y flwyddyn academaidd i'n Myfyrwyr Network 75 hyfryd, sef y cyntaf o'u bath i ymuno â ni yn y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae'r ddau wedi llwyddo yn eu harholiadau ac maent bellach yn gweithio'n llawn amser i ni dros eu gwyliau haf o'r brifysgol. Cwrddom â Robyn ac Amy a gofyn iddynt sut mae eu blwyddyn gyntaf wedi bod, a dyma’r hyn ddywedon nhw.

Network 75 first year R

“Rydw i wrth fy modd a dros ben llestri fy mod wedi cwblhau a phasio fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol De Cymru ac yn gam yn nes at gwblhau fy ngradd yn y Gyfraith. Mae'n deimlad anhygoel gwybod bod fy ngwaith caled wedi talu ar ei ganfed. Ni allwn fod wedi cyflawni hyn heb gymorth a chefnogaeth fy nghydweithwyr yn y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae pawb wedi bod yn fwy na pharod i'm helpu drwy gydol y flwyddyn diwethaf ac i roi cyngor pryd bynnag yr oeddwn ei angen, sydd wedi bod yn aml, mwy na thebyg!

“Mae'r flwyddyn diwethaf yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg wedi hedfan heibio ac rwyf wedi mwynhau bob munud o'm hamser yma hyd yma. Ni allwn fod wedi gofyn am leoliad gwell wrth i mi weithio fy ffordd drwy'r brifysgol. Rwyf eisoes wedi cael cymaint o brofiad drwy hyfforddi, mynychu’r llysoedd, cwrdd â thystion a diwrnodau Cleient. Hyd yn oed yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol, mae'r profiadau a gefais wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o'r gyfraith.

“Rydw i wedi cynhyrfu (ac yn nerfus) wrth ddechrau ar fy ail flwyddyn yn y brifysgol sy'n cynnwys astudio ystod amrywiol o feysydd cyfraith ac rydw i'n edrych ymlaen at Gyfraith’r UE a Chontractau Rwy'n bendant yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur a boddhaus arall yn y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg!” - Robyn Kelly

Network 75 first year A“Rwyf newydd orffen fy mlwyddyn academaidd gyntaf yn astudio Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol De Cymru tra'n gweithio'n rhan amser yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC. Dros yr haf byddaf yn gweithio oriau llawn amser lle rwy'n gobeithio dysgu mwy fyth am wythnos waith Cyfreithiwr / Gweithredwr Cyfreithiol.

“Dros y flwyddyn diwethaf, rwyf wedi cael cipolwg anhygoel ar y proffesiwn cyfreithiol ac wedi gwneud llawer o dasgau fy hun. Rwyf wedi ennyn ymddiriedaeth i wneud llawer o waith yn y tîm Anafiadau Personol ac rwy'n dod yn fwyfwy hyderus wrth ddilyn y broses ymgyfreitha.

“Wrth weithio yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg, rwyf wedi cael profiad o gyfarfodydd tystion, teithiau i'r llys, cynadleddau ffôn, diwrnodau hyfforddi, anerchiadau gan fargyfreithwyr a thraws-hyfforddiant i feysydd eraill y gyfraith. Mae'r holl brofiadau hyn wedi profi’n gyfleoedd rhwydweithio gwych ac yn gromliniau dysgu ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu hyd yn oed mwy o sgiliau yn y gweithle, gan ddysgu mwy am anafiadau personol wrth i mi ymgymryd â blwyddyn arall o fewn fy nhîm a gobeithio treulio mwy o amser yn amgylchedd y llys.” - Amy Bartlett