Neidio i'r prif gynnwy

Penodwyd Daniela Mahapatra yn Ddirprwy Gyfarwyddwr

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Daniela Mahapatra wedi'i phenodi'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Ymunodd Daniela â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2012, ac mae wedi bod yn arwain ein Tîm Cyflogaeth arobryn ers hynny. Yn ei hamser yn rheoli'r tîm, mae wedi mwy na threblu mewn maint ac wedi mynd o nerth i nerth. Ni allwn aros i weld ei gwaith fel Dirprwy Gyfarwyddwr yr Adran, a'i llongyfarch ar yr apwyntiad.

Meddai Daniela, “Rwy’n hynod falch o gael fy mhenodi’n Ddirprwy Gyfarwyddwr. Rwy'n teimlo'n freintiedig i weithio gyda grŵp o bobl mor ymroddedig a thalentog. Byddaf yn gwneud fy ngorau i gefnogi Mark i arwain ein adran trwy'r heriau sydd o'n blaenau ac i gynnal ein henw da am ragoriaeth wrth ddarparu gwasanaethau a gofal i cleientiaid."

Rydym yn dymuno pob lwc iddi yn y rôl.