Ar ôl twtio ein llyfrgell rhyw ychydig, rydym ni wedi rhoi rhai o’n gwerslyfrau cyfreithiol i’r International Law Book Facility, sy’n gwneud gwaith gwych yn darparu llyfrau cyfreithiol ail-law o ansawdd da i sefydliadau nid-am-elw ledled y byd, y mae angen adnoddau ymchwil cyfreithiol arnynt.
Ers 2005, mae’r International Law Book Facility wedi anfon dros 53,000 o lyfrau i fwy na 190 o sefydliadau nid-am-elw mewn 51 o wledydd dros Affrica, De America, y Caribî, Ewrop a’r Pasiffig. Os oes gennych unrhyw werslyfrau cyfreithiol nad oes eu hangen arnoch mwyach, byddem yn eich annog i’w rhoi iddynt, fel y gwnaethom ni, fel y gall pobl barhau i wneud defnydd ohonynt ledled y byd.
Gallwch fynd i wefan yr International Law Book Facility yma: https://ilbf.org.uk/
Neu gwyliwch eu stori ar YouTube yma: https://www.youtube.com/watch?v=kHMBLlqo-1M&feature=youtu.be