Neidio i'r prif gynnwy

Swyddi newydd dros dro wedi'u penodi

 

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Sioned Eurig wedi'i phenodi'n Reolwr Tîm ar gyfer y Tîm Cyflogaeth (dros dro) yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Ymunodd Sioned â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2012, ac mae wedi bod yn rhan annatod o'n Tîm Cyflogaeth arobryn ers hynny. Mae hi wedi bod yn rhan annatod o’i dwf, ac fe fydd hi’n adnabyddus i'r rhan fwyaf o'n cleientiaid ar draws Cymru. Rydym yn gyffrous dros ddyfodol y tîm ac i weld rhai o syniadau Sioned yn dwyn ffrwyth.

Meddai Sioned, “Rwy’n hynod falch o ymgymryd â’r rôl newydd hon ac i fynd â’r tîm ar yr antur newydd hon gyda mi. Rwy'n wirioneddol falch o'r gwasanaeth eithriadol yr ydym yn ei ddarparu i'n cleientiaid presennol ac rwy'n gyffrous i weld a allwn ehangu ein gwasanaethau yn y dyfodol. Byddaf yn gweithio’n galed i adeiladu a chynnal ein henw da yn unol â gwerthoedd craidd y sefydliad. ”

 

 

Rydym hefyd yn gyffrous i gyhoeddi penodiad Paul Veysey i rôl Rheolwr Tîm ar gyfer y Tîm Masnachol, Rheoleiddio a Chaffael (dros dro). Bu Paul yn gweithio fel Partner mewn practis cyn ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ym mis Mehefin 2019. 

Paul Veysey

Meddai Paul, “Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i arwain a datblygu’r Tîm Masnachol, Rheoleiddio a Chaffael yma yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae ein tîm ymroddedig a thalentog yn darparu cyngor cyfreithiol o ansawdd uchel ac yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi ac yn hwyluso darparu gwasanaethau gofal iechyd y GIG yng Nghymru. Rwy'n wirioneddol gyffrous i adeiladu ac ehangu ein gwaith gyda dull Unwaith i Gymru, gan ddarparu mynediad hawdd at gyngor a chymorth arbenigol. "