Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn y Gymraeg.
Ni fydd ymgysylltu gyda ni yn y Gymraeg yn arwain at oedi.
Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a Chronfa Risg Cymru wrth eu bodd o fod wedi ennill Gwobr Trawsnewid Gwasanaethau Cyfreithiol yng Ngwobrau Newyddion Cyfreithiol Cymru 2026 yn ddiweddar. Roedd y wobr yn ymwneud â nifer o fentrau a roddwyd ar waith gan yr adran dros y misoedd diwethaf i wella perfformiad busnes. Roedd hyn yn cynnwys System Rheoli Achosion newydd, sefydlu Grŵp Rhwydweithio Esgeuluster Clinigol De Cymru a chryfhau'r prosesau dysgu-o-hawliadau.
Yn ogystal â hyn, cafodd yr adran ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Menter Farchnata’r Flwyddyn yng Ngwobrau Newyddion Cyfreithiol Cymru, mewn perthynas â’r cyfathrebiadau mewnol a gyflwynwyd i staff yn ystod cyflwyno’r System Rheoli Achosion newydd.
Roedd y sylwadau yn y noson Wobrwyo yn cynnwys y canlynol:
“Gwnaeth yr enillydd argraff dda ar y beirniaid am gyflawni trawsnewidiad ar raddfa fawr a oedd yn cyfuno gwelliant mewn gwasanaethau cyfreithiol, arloesi digidol a llywodraethu risg cryfach ar draws amgylchedd gofal iechyd cenedlaethol cymhleth iawn. Dangosodd yr enillydd fanteision clir i hyder staff, gwelededd gweithredol ac yn y pen draw gofal cleifion mwy diogel.”
Dywedodd Daniela Mahapatra, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg:
“Rydym wrth ein bodd ac yn hynod falch o fod wedi ennill categori Trawsnewidiad y Flwyddyn yng Ngwobrau Newyddion Cyfreithiol Cymru. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn golygu llawer iawn i ni, gan ei bod yn adlewyrchu'r ymroddiad, yr arloesi a'r gwydnwch a ddangoswyd gan gydweithwyr ar draws Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a Chronfa Risg Cymru.
Rydym yn arbennig o falch o'n haelodau staff, sydd wedi gweithio mor galed i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, arddel ffyrdd newydd o weithio a chefnogi GIG Cymru. Mae'r wobr hon yn dyst i'w hymrwymiad, eu proffesiynoldeb a'u gwaith tîm, ac rydym wrth ein bodd yn gweld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod fel hyn.”